CYHOEDDI’R RHESTR FER AR GYFER PERSONOLIAETH CHWARAEON Y FLWYDDYN BBC CYMRU WALES 2015

Mae enwaua’r wyth a fydd yn cystadlu am wobr fawreddog Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015 wedi cael eu datgelu heddiw (dydd Mawrth, 24 Tachwedd).

Dyma’r cystadleuwyr:

Pê-droediwr Cymru a Real Madrid GARETH BALE, yr oedd ei goliau wedi helpu i fynd â Chymru i Rowndiau Terfynol Ewro 2016

Chwaraewr Rygbi’r Undeb y Gweilch a Chymru DAN BIGGAR a ddisgleiriodd yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Pencampwr y Byd Dwbl gyda’r Ddisgen a Thaflu Pwysau a’r un sy’n dal y Record, yr Athletwr Paralympaidd ALED SION DAVIES

Enillydd medal aur yn y Gemau Ewropeaidd ac Enillydd Grand Prix y Byd, yr athletwraig Taekwondo JADE JONES

Pencampwr newydd Pwysau Plu y Byd IBF a oedd hefyd wedi amddiffyn ei deitl eleni, y bocsiwr LEE SELBY

Gan ddychwelyd ar ôl anaf i gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd 2016, yr athetlwraig triathalon NON STANFORD

Enillydd clasurol a gan orffen y Tour de France yn safle gorau ei yrfa, y seiclwr GERAINT THOMAS

Capten pêl-droed Cymru a Dinas Abertawe ASHLEY WILLIAMS a arweiniodd ei wlad at Rowndiau Terfynol Ewro 2016

Penderfynir ar bwy sy’n ennill y wobr drwy bleidlais gyhoeddus a chyhoeddir yr enillydd yn noson Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015 nos Lun 7 Rhagfyr yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015 yn bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chwaraeon Cymru ac mae’n dod ag amrywiaeth eang o wobrau ynghyd – gan gynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru a Thîm y Flwyddyn – a gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Gall y cyhoedd bleidleisio, dros y ffôn neu drwy neges destun, o ddydd Llun 30 Tachwedd tan ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr. Bydd manylion llawn am sut i bleidleisio ar gael ddydd Llun 30 Tachwedd ar ein gwefan bbc.co.uk/cymrufyw

#WSA2015

Wales Sport Awards 2014 08.12.14 ©Steve Pope -SPORTINGWALES

Wales Sport Awards 2014
08.12.14
©Steve Pope -SPORTINGWALES

0 replies

Leave a Reply

Want to join the discussion?
Feel free to contribute!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *