Yn rownd derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – John Wilson

Nid ymddeoliad tawel sydd ar feddwl John Wilson yn sicr. Ers rhoi’r gorau i’w swydd fel Uwch Swyddog Tân yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae ganddo swydd wirfoddol lawn amser fwy neu lai erbyn hyn, fel hyfforddwr bowlio ar bobl sydd â nam ar y golwg.

Dechreuodd chwarae bowls ar ddiwedd y 1980au ac roedd “wedi gwirioni ar y gêm o’r diwrnod cyntaf.” Ond aeth saith mlynedd heibio cyn iddo ddechrau dyfarnu:

“Roeddwn i’n digwydd bod yng Nghlwb Bowlio Dan Do Abertawe ar yr un pryd â’r clwb bowlio i bobl ddall. Fe welais i fod y chwaraewyr angen cymorth ar ac oddi ar y lawnt. Fe welais i hefyd fod gen i lawer i’w gynnig o ran diogelwch a thechneg. Fe ddechreuodd y cyfan bryd hynny.”

Ac yn union fel y gwnaeth fel swyddog tân, ymatebodd i alwad i helpu eraill, ac mae ei haelioni o ran amser, ymdrech a chyngor wedi creu cannoedd o gyfleoedd. Mae nid yn unig yn hyfforddi yn lleol yn Rhydaman ac yn Abertawe, ond hefyd yn teithio i rannau eraill o Gymru i rannu ei ddoethineb gyda chlybiau eraill.

Mae ganddo nod – helpu clybiau bowlio ledled Cymru i fod yn fwy cynhwysol i chwaraewyr sydd â nam ar y golwg.

“Mae hyn ar gynnydd yn sicr. Mae’r gair ar led ac mae mwy a mwy o glybiau’n cysylltu eisiau rhagor o wybodaeth am sut gallan nhw fod yn fwy cynhwysol i bobl ag anableddau.

“Os ydyn nhw’n mwynhau, dyna sy’n bwysig. Fe ddywedodd dyn wrtha i’r wythnos ddiwethaf nad oedd wedi bod allan o’r tŷ am dair blynedd. Roedd rhywun wedi ei berswadio i ddod. Dywedodd ei fod wedi newid ei fywyd. Dyna sy’n creu boddhad.”

Hefyd mae John yn darparu cyngor un i un, yn enwedig i chwaraewyr newydd, i’w helpu i ddechrau arni. Mae hyd yn oed yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chwaraewyr unigol yn sgwad Cymru.

Gyda mwy a mwy o alw, does dim posib iddo fod ym mhob man, ac felly mae wedi recriwtio a hyfforddi eraill i hyfforddi:

“Rydw i’n ofalus yn fy newis – mae’n rhaid iddyn nhw allu gweithio’n dda gydag unigolion. Rydw i bob amser yn dweud wrth bobl, â’u golwg maen nhw wedi’i golli, nid eu hymennydd.” Mae’n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr da oherwydd chi yw eu llygaid nhw ar y lawnt. Mae llinyn yn rhedeg i lawr canol y rinc ac rydych chi’n defnyddio hwnnw i esbonio ongl y bêl.”

Mae’n rhoi o’i amser yn gwbl barod i hyfforddi eraill ac nid yw’n syndod bod John ar restr fer Gwobrau Chwaraeon Cymru:

“A dweud y gwir, mae’n gryn dipyn o sioc. Sut wnes i hynna? Y cyfan rydw i’n ei wneud yw mynd allan a helpu pobl i chwarae bowls. Dyw e ddim yn anodd.”

Wales Sport Awards 2015 John Wilson 27.10.15 ©Steve Pope - SPORTINGWALES

Wales Sport Awards 2015
John Wilson
27.10.15
©Steve Pope – SPORTINGWALES

Yn rownd derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – CAROLINE MATTHEWS

“Mae’n rhaid bod pêl fasged yn fy ngwaed i. Rydw i wedi chwarae ar fy nhraed ac ar olwynion. Rydw i wedi bod yn chwaraewr a nawr rydw i’n hyfforddi,” dywedodd Caroline Matthews, hyfforddwr pêl fasged cadair olwyn 42 oed o Abersili.

A hyfforddwr llwyddiannus iawn hefyd. Yn 2015, arweiniodd Geltiaid Caerdydd i fod yn bencampwyr adran dau Cynghrair Genedlaethol Prydain, gan sicrhau dyrchafiad i adran un.

“Roedd yn dymor sydd ond yn dod unwaith yng ngyrfa rhywun rwy’n credu. Fe wnaethon ni ennill pob gêm yn yr ail adran a chyrraedd y gemau ail gyfle ac ennill y ddwy gêm i gael dyrchafiad. Roedd yn fraint hyfforddi’r tîm drwy hynny.”

Ond does dim un flwyddyn lwyddiannus yn dod heb waith caled iawn:

“Y llynedd, fe wnes i gymhwyso fel hyfforddwr Gradd 3. Fi yw’r ail berson yn unig yn y DU i gyflawni hynny. Fe wnes i ddysgu cymaint ar y cwrs a’i gynnwys yn fy holl waith gyda’r Celtiaid. Rydw i’n dysgu drwy’r amser ac mae’n rhoi llawer iawn o foddhad i mi.”

Mae’r cyn Baralympiad – a chwaraeodd yng Ngemau Athen a Beijing – yn disgrifio ei hymrwymiad i wirfoddoli fel “swydd ran amser arall, nid llawn amser” ac nid yw hynny’n hawdd o gofio ei bod yn gyfreithwraig wrth ei gwaith bob dydd.

“Rydw i bob amser naill ai’n paratoi ar gyfer gemau ac yn astudio ymarferion a damcaniaethau newydd neu’ cynllunio sesiynau, dadansoddi fideos, gwneud nodiadau ar ôl gêm neu’n helpu hyfforddwyr eraill – unrhyw beth i gael fy chwaraewyr i i berfformio’n dda.”

Mae ganddi ddyletswyddau rhyngwladol hefyd fel prif hyfforddwr Tîm Pêl Fasged Cadair Olwyn Dan 23 Cymru. Yn 2015, arweiniodd hwy i fuddugoliaeth yn y Gwpan Geltaidd flynyddol am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth. Threchodd neb ei thîm – enillwyd pedair gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Ond nid dim ond tlysau a chwpanau yw nod gwaith Caroline yn y clwb:

“Mae’r bobl sy’n ymwneud â chwaraeon anabledd yn wynebu heriau yn eu bywydau yn aml. Rydyn ni’n gweld chwaraewyr swil yn cyrraedd yma’n aml ond, ymhen ychydig wythnosau, maen nhw’n mynnu cael y bêl ac yn mwynhau’r holl dynnu coes. Maen nhw’n datblygu pob math o sgiliau bob dydd ac yn gwella eu hyder. Rydyn ni wir yn un teulu mawr.

“Mae’n fraint cael fy enwebu ac yn wefr cael bod ar y rhestr fer. Rydw i’n eithriadol nerfus oherwydd bydd pobl yn edrych arna i fel unigolyn, yn hytrach nag fel rhan o’r tîm. Wedi dweud hynny, anrhydedd i’r tîm yw hon. Rydw i wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y tymor yn llwyddiant ond fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb y dalent o’m cwmpas i.”

Wales Sport Awards 2015 Caroline Matthews 24.10.15 ©Steve Pope - SPORTINGWALES

Wales Sport Awards 2015
Caroline Matthews
24.10.15
©Steve Pope – SPORTINGWALES

Yn rownd derfynol Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – ANGELINE TSHIYANE

“Mae pob un ohonom ni eisiau teimlo’n bwysig, ein bod ni’n rhywun. Os gallaf i wneud i rywun deimlo felly, hwnnw fydd y cyflawniad mwyaf.”

Dewch i gyfarfod Angeline. Neu Angie fel mae’n cael ei hadnabod – gwraig 52 oed wyrthiol o’r Betws yng Nghasnewydd. Bydd hi’n siwr o ddiystyru’r ganmoliaeth, ond mae hi’n ddim llai na gwyrth.

Mae Angie wedi sefydlu llawer o grwpiau chwaraeon ar gyfer pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn bennaf ac wedi sefydlu elusen leol hefyd. Yn ogystal â hynny mae’n cwblhau gradd ym Mhrifysgol De Cymru mewn Datblygu Cymunedol a Chydweithredu Traws-sector.

Yn ychwanegol at hyn i gyd, mae’n gweithio shifftiau nos fel gweithiwr gofal:

“Mae’n rhaid i mi wneud amser i eistedd i lawr,” dywedodd Angie. “Rydw i wedi blino’n lân ar adegau. Weithiau, rydw i’n dod o fy shifft nos ac yn dechrau astudio yn syth. Wedyn i’r clwb nofio ac ymarfer côr. Wnes i grybwyll mod i’n canu?”

Mae’n teimlo’n angerddol am helpu’r rhai nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd o angenrheidrwydd ag eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ac, yn ôl y sawl a’i henwebodd, mae’n cael effaith ar iechyd y gymuned DLlE leol, yn gostwng pwysedd gwaed ac yn helpu gyda cholli pwysau a magu hunanhyder.

Un o’i chyflawniadau pennaf yw sefydlu Grwp Nofio’r Gymuned Njuzu. Hefyd mae wedi helpu gyda ffurfio grwp cerdded DLlE i ferched yn unig.

“Rydw i’n helpu i leddfu rhywfaint o’r straen mae’r merched yma’n ei wynebu. Rydw i’n delio gyda mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydw i’n eu cael nhw i ymarfer ac i gyfarfod pobl ac rydw i’n gweithio gyda merched sydd wedi cael eu cam-drin gan eu gwyr. Mae llawer o’r merched hyn yn teimlo’n ynysig; ddim yn adnabod neb. Ond ar ôl dechrau dod â’u plant i nofio neu ddod i gerdded, maen nhw’n gwneud ffrindiau.”

Gyda help Fforwm Chwaraeon DLlE Casnewydd, Newport Live a Chwaraeon Cymru, mae wedi sefydlu gwersi nofio i blant. Ar ôl cael grant i logi pwll ac i dalu am hyfforddwr, mae 14 o blant – rhwng 5 a 12 oed – yn dod i’w sesiynau bob wythnos erbyn hyn:

“Am ryw reswm,” dywedodd Angie, “nid yw nofio yn yr ysgol neu mewn gwersi rheolaidd wedi bod yn ddigon. Dywedodd un fam nad oedd ei merch yn hoffi mynd i’r gwersi gan mai hi oedd yr unig ferch ddu yn y dosbarth. Maen nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus yn y grwp yma.”

Ond mae hi am gyflawni mwy eto. Mae wrthi’n cymhwyso fel hyfforddwr er mwyn gallu addysgu. Wedyn, dim ond am logi pwll fydd raid talu. Bydd yn rhatach i’r teuluoedd.

“Rydw i wedi bod yn berson prysur erioed. Mae gen i galon i helpu ac i helpu pobl i wella eu hunain.”

Angeline Tsyihane Profile

Yn rownd derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – GWILYM LEWIS

Gwilym Lewis yw hyfforddwr Clwb Rygbi Llanelli Warriors. Ond nid clwb rygbi cyffredin mo hwn.

Ym Mhorth Tywyn fe ddewch chi ar draws clwb rygbi gallu cymysg sy’n ysbrydoli ac yn gwasanaethu fel glasbrint ar gyfer clybiau tebyg ledled Ewrop. Yr hyn sy’n wahanol am y tîm yma yw ei fod yn mynd ati i gynnwys chwaraewyr sydd ag anableddau dysgu (neu anawsterau dysgu). Efallai bod cyfyngiadau symud gan rai chwaraewyr hefyd.

“Roeddwn i’n arfer gweithio mewn canolfan ddydd,” esbonia Gwilym, pan ofynnwyd iddo sut dechreuodd y cyfan. “Roedd ganddyn nhw dîm rygbi a oedd yn cynnwys y staff a’r cleientiaid ac fe gefais i gynnig chwarae. Roeddwn i’n helpu gyda’r hyfforddi mewn dim o dro.

“Wrth i’r tîm ddechrau bod yn fwy difrifol, symudwyd y clwb o leoliad y gwasanaethau cymdeithasol a’i sefydlu fel clwb ar ei liwt ei hun.

“Does dim noson yn mynd heibio heb i mi fod yn gwneud rhywbeth er lles y clwb,” meddai Gwilym. Ac mae hynny’n waith caled o ystyried ei swydd heriol fel Gweithiwr Gofal Cyffuriau ac Alcohol gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin. Felly pam gwneud hyn?

“Rydw i wrth fy modd gyda her yr hyfforddi, yn enwedig y gymysgedd o alluoedd, personoliaethau ac anableddau. Mae’n flinedig weithiau, ond yn wych. Rydw i wrth fy modd yn gweld y bechgyn yn cymdeithasu. Fe fydd y rhieni’n dweud faint mae’r clwb wedi gwella hyder eu plant. Fe aethon ni â’r tîm i weld Scrum V yn cael ei ffilmio’r dydd o’r blaen ac fe ddywedodd un chwaraewr mai hwn oedd diwrnod hapusaf ei fywyd. Mae hynny’n rhoi boddhad mawr am yr holl waith caled.”

Ar hyn o bryd mae gan y Warriors 25 o chwaraewyr sydd â chyflyrau meddyliol ac anableddau, fel awtistiaeth, ADHD, Syndrom Down a pharlys yr ymennydd.

“Yn Llanelli, mae pawb yn chwarae rygbi a phawb yn siarad amdano. Felly mae wir yn helpu gydag integreiddio cymdeithasol. Mae ganddyn nhw straeon i’w hadrodd wrth bobl eraill am y gemau maen nhw wedi’u chwarae, y taclo a’r tripiau. Maen nhw’n gallu uniaethu ag eraill a chynnal sgwrs.”

Chwaraeodd y clwb 19 o gemau y tymor diwethaf, y mwyafrif yn erbyn timau rygbi “prif ffrwd”, ac er mai cynnwys a phrofiad yw’r brif athroniaeth – yn hytrach nag ennill gemau – cafwyd 11 buddugoliaeth – cryn gamp!

Hefyd mae’r chwaraewyr anabl yn helpu gyda rhedeg y clwb – drwy hyfforddi, dyfarnu, derbyn ôl ar y pwyllgor neu godi arian.

Ar ôl cynghori a helpu i sefydlu carfannau integredig yn Lloegr, yr Alban a ledled Ewrop, mae Gwilym wedi cael ei ddisgrifio fel arloeswr – term mae’n ei ddiystyru’n gyflym iawn, gan ddweud mai’r clwb sydd wedi cyflawni popeth:

“Rydw i’n meddwl bod cysyniad y Warriors – chwaraewyr anabl a heb anabledd yn chwarae yn erbyn ei gilydd ac ochr yn ochr a’i gilydd – yn arloesol, yn enwedig mewn rygbi, sy’n gêm mor gorfforol. Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o siwrnai’r Warriors a sefydlu timau gallu cymysg eraill mewn rhannau eraill o’r byd.”

Wales Sport Awards 2015 Gwilym Lewis 25.10.15 ©Steve Pope - SPORTINGWALES

Wales Sport Awards 2015
Gwilym Lewis
25.10.15
©Steve Pope – SPORTINGWALES

Yn rownd derfynol Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – SAMANTHA O’CALLAGHAN

Pan orfodwyd yr hyfforddwr yng nghlwb pêl rwyd ei merch i roi’r gorau iddi, penderfynodd Samantha a rhiant arall y byddent yn rhoi help llaw dros dro. Roedd hynny wyth mlynedd yn ôl. Nawr, wedi mynychu nifer o gyrsiau hyfforddi, mae hi dal wrth y llyw. Ac mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth yn sicr.

Felly’r tro nesaf fyddwch chi’n cwyno nad oes gennych chi ddigon o amser, meddyliwch am Samantha O’Callaghan. Mae gan y gweithiwr gofal 38 oed bump o blant. Ond eto mae’n dal i dreulio deg awr yr wythnos yn hyfforddi ac yn trefnu Clwb Pêl Rwyd Glynebwy. Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae hi hefyd yn Swyddog Lles i Gynghrair Bêl Droed Iau Islwyn.

“Nes i chi eistedd i lawr a mynd ati i gyfrif yr oriau rydych chi’n eu treulio’n gweithio er lles y clwb – ac nid dim ond yr hyfforddi rydw i’n ei feddwl, rydw i’n sôn am y gwaith y tu ôl i’r llenni, fel bancio’r arian a chynllunio’r sesiynau – dydych chi ddim yn sylweddoli faint o’ch amser rydych chi’n ei roi,” dywedodd Samantha.

“Ond mae’r cyfan werth e. Rydw i wrth fy modd yn gweld cynnydd y chwaraewyr a sut mae eu personoliaethau’n disgleirio drwy’r cyfan. Mae chwarae yn y clwb yn rhoi bywyd cymdeithasol y tu allan i’r ysgol iddyn nhw, a hwb i’w ffitrwydd ac i’w hyder nhw hefyd.”

Yn 2014, llwyddodd Samantha i uno Clwb Pêl Rwyd Iau Glynebwy gyda’r garfan hyn leol, ar ôl sylweddoli eu bod yn colli eu holl chwaraewyr i glybiau eraill ar ôl iddynt gyrraedd 15 oed. Mae’n gyfrifol am dri thîm pêl rwyd, saith carfan iau, tri thîm cymysg a dau dîm ar lefel hyn. Mae hi hefyd yn fentor i dri hyfforddwr, 15 o arweinwyr ifanc a phump o Lysgenhadon Ifanc.”Pan wnes i ddechrau, roedd rhyw 11 o ferched yma. Nawr mae gennym ni 85 o ferched ar y llyfrau, rhwng pump a 15 oed. A dyw hynny ddim yn cynnwys y carfannau hyn – mae cyfanswm y chwaraewyr yn rhyw xx. Mae wedi bod yn siwrnai hir ond mae’r holl waith caled wedi talu ar ei ganfed.”

Mae’n cael ei theulu i helpu hefyd. Mae ei merch hynaf, Georgia, yn hyfforddi, a Ffion yn helpu gyda’r chwaraewyr ifanc.

Mae’r clwb yn cael seibiant dros wyliau’r haf ond does dim gorffwys i Samantha – dyma pryd mae’r gwersyll pêl rwyd yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy’n cael ei gynnal.

“Roedd yn gymaint o sioc clywed ‘mod i yn y rownd derfynol. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i’n cael fy enwebu hyd yn oed. Rydw i’n eithaf nerfus – mae hyfforddi’r merched yn iawn, dim problem o gwbl. Ond mae cael fy newis ar restr fer gan banel o arbenigwyr i fynd i seremoni gyda chymaint o sêr arbennig o’r byd chwaraeon – wel mae honno’n stori arall yn llwyr!”

Wales Sport Awards 2015 Samantha O'Callaghan 22.10.15 ©Steve Pope - SPORTINGWALES

Wales Sport Awards 2015
Samantha O’Callaghan
22.10.15
©Steve Pope – SPORTINGWALES