CYHOEDDI RHESTR FER PERSONOLIAETH CHWARAEON Y FLWYDDYN BBC CYMRU 2016

Yn dilyn blwyddyn hanesyddol i chwaraeon Cymru, mae enwau’r wyth a fydd yn cystadlu am wobr fawreddog Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2016 wedi cael eu datgelu heddiw (dydd Mawrth, 22 Tachwedd).
Dyma’r cystadleuwyr:

  • Enillydd medal aur am daflu gwaywffon yn y Gemau Paralympaidd, HOLLIE ARNOLD, a fwynhaodd dymor heb ei threchu yn 2016
  • Pêl-droediwr rhyngwladol llwyddiannus Cymru, a enillodd Gynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid, GARETH BALE, oedd yn rhan o dîm Ewro 2016, gyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol
  • Enillydd medal aur yn y gweithgaredd tîm i’r beicwyr yn y Gemau Olympaidd, ELINOR BARKER, sydd hefyd wedi gwneud ei marc ar ôl troi at gystadlu’n unigol
  • Enillydd medal aur am daflu maen yn y Gemau Paralympaidd, ALED SIÔN DAVIES, a enillodd yr aur yn y taflu maen a’r ddisgen ym Mhencampwriaethau Ewrop hefyd, gan osod record Byd a Pharalympaidd ar yr un pryd.
  • OWAIN DOULL, beiciwr arall yn y gweithgaredd tîm yn y Gemau Olympaidd a gipiodd fedal aur ac sydd wedi mwynhau ei dymor gorau hyd yma.
  • Yr athletwraig taekwondo, JADE JONES, a lwyddodd i ddal gafael ar ei theitl Olympaidd a dod yn Bencampwraig Ewrop yn 2016 hefyd.
  • Y seren hwylio yn y Gemau Olympaidd, HANNAH MILLS, a ragorodd ar ei medal arian yn Llundain 2012 i gipio’r aur yn y dosbarth 470 yng Ngemau Rio 2016.
  • Pencampwr Pwysau Plu presennol y Byd IBF, LEE SELBY, a amddiffynnodd ei deitl eleni.

Penderfynir ar enillydd y wobr drwy bleidlais gyhoeddus, a chyhoeddir enw’r enillydd yn noson Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 nos Lun 5 Rhagfyr yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd.

Gall y cyhoedd bleidleisio dros y ffôn neu drwy neges destun, rhwng dydd Llun 28 Tachwedd a dydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Bydd manylion llawn am sut i bleidleisio ar gael ddydd Llun 28 Tachwedd ar wefan bbc.co.uk/cymrufyw

Cafodd y rhestr fer ei dewis gan banel o arbenigwyr sy’n cynnwys Paralympiad mwyaf llwyddiannus Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson; cyn-bêl-droediwr Cymru Nathan Blake; prif weithredwr Gymnasteg Cymru Rhian Gibson; y sbrintiwr a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gemau Olympaidd Christian Malcolm; ac fe gadeirir y panel gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Chwaraeon Lloegr, Nigel Walker. Dywedodd yntau, “Nid oedd yn dasg hawdd i benderfynu ar y rhestr fer hon, gyda chymaint o berfformiadau gwych gan sêr chwaraeon Cymru yn 2016. Bu’n rhaid i ni wneud dewisiadau anodd. Ond yn y diwedd, fe wnaethom gytuno i setlo ar wyth cystadleuydd sydd i gyd wedi ennill ar y lefel uchaf eleni ac wedi gwneud argraff sylweddol ar y gymuned chwaraeon yng Nghymru.”

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn bartneriaeth rhwng BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru, i ddathlu’r cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae categorïau’r gwobrau’n cynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales.

Mae posib gwylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw o 7.30pm ymlaen nos Lun 5 Rhagfyr ar bbc.co.uk/sportwales, BBC iPlayer ac ar y Botwm Coch. Darlledir y digwyddiad yn fyw ar BBC Radio Wales.

#WSA2016

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Jamie Evans

Roedd Clwb Gymnasteg Tymblo Pencoed ar fin cau – nes i hyfforddwr ifanc gamu i’r adwy fel Prif Hyfforddwr.

Dim ond 19 oed oedd Jamie Evans bryd hynny a nawr, bum mlynedd yn ddiweddarach, mae ganddo uchelgais mawr eisoes ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y bachgen 24 oed brwdfrydig: “Roedd fy hyfforddwr i’n ymddeol ar ôl 20 mlynedd ac roedd y clwb ar fin cau. Fy adwaith i oedd, ‘dim peryg!’ ac fe wnes i lenwi’r bwlch. Nawr mae gen i gynlluniau i gael cyfleuster erbyn pan fyddai’n 30 oed.”

Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn y clwb. Ymunodd pan oedd yn saith oed ac yn fuan roedd yn gwybod mai ei hoff ddisgyblaeth oedd tymblo – ffurf ar gymnasteg sy’n cynnwys cyfres o droelli a throsbennu ar draws trac 25m. Yn 13 oed, roedd yn hyfforddi ei gyfoedion:

“Fe fyddwn i’n cystadlu a chymryd fy nhro ac wedyn yn hyfforddi gweddill y rhes.” Nawr mae’n un o’r ychydig hyfforddwyr tymblo yng Nghymru sydd â chymwysterau ar lefel uchel.

“Yn wahanol i’r rhan fwyaf o glybiau, mae ein plant ni’n aros i gystadlu tan eu harddegau hwyr,” esboniodd Jamie. “A hefyd mae llawer o ddiddordeb gan newydd-ddyfodiaid. Ers Gemau Olympaidd Rio, rydyn ni wedi cael llawer o alwadau am drampolinio mini. Felly rydw i wedi trefnu trydydd dosbarth hamdden i ymdopi â’r galw. Rydyn ni wedi derbyn 14 o aelodau newydd rheolaidd mewn dim ond pythefnos!”

Ym Mhencampwriaethau NDP Prydain y llynedd – sef y garreg gamu at Bencampwriaethau Prydain sy’n denu’r gymnastwyr tymblo addawol gorau o bob cwr o Brydain – dychwelodd Pencoed gyda’r nifer mwyaf o fedalau o blith clybiau Cymru. Camp enfawr i glwb gyda dim ond 25 aelod ar lefel sgwad.

Mae Jamie’n hyfforddwr mor ymroddedig fel ei fod yn gyrru wyth awr yno ac yn ôl i Milton Keynes am sesiwn tair awr:

“Mae pobl yn meddwl fy mod i’n wallgof! Ond yno rydyn ni’n gallu gweithio gyda hyfforddwyr sy’n gyfrifol am athletwyr o safon byd. Ac rydyn ni’n cael defnyddio trac tymblo graddfa lawn felly mae’n brofiad amhrisiadwy. O dreulio amser gyda nhw, rydw i wedi gwneud newidiadau yn y clwb yn barod, ac rydw i eisoes yn gweld gwelliannau yn y sgwad.”

Mae Jamie’n treulio bob nos bron yn y clwb. Ac yn sicr nid yw’n cael mwynhau aros yn ei wely ar fore Sadwrn gan ei fod yn gadael ei gartref yng Nghaerdydd am 7am i fynd i’r gampfa. Ar ben hyn i gyd, mae’n gweithio 40 awr yr wythnos yn y sector blynyddoedd cynnar.

Ond eto mae’n dal i geisio ehangu’r clwb ymhellach, gyda phenderfyniad diwyro i gynnig mwy o sesiynau i’r gymuned leol. Ar hyn o bryd mae’n mentora grŵp o ieuenctid yn eu harddegau sydd eisiau bod yn hyfforddwyr, i helpu i ymdopi â’r galw.

“Y prif reswm dros wneud hyn?,” dywedodd Jamie. “Yr effaith ar y plant. Mae’n rhaid i chi ddeall bod gan Ben-y-bont ar Ogwr ddiwylliant rygbi traddodiadol iawn. Mae gennym ni un bachgen 14 oed ac mae’n gymnast tymblo gwych ac yn chwaraewr rygbi anhygoel hefyd. Ar ôl ei gemau rygbi, mae’n ôl yn yr ystafell newid ac yn estyn am ei leotard o flaen gweddill y tîm. Mae bod yn gyfforddus gyda chi eich hun fel yna, yn yr oedran yma,  a chael eich parchu amdano – mae’n hyder anhygoel.

“Rydw i wir yn credu bod tymblo’n helpu’r plant yma i fod yn bobl ifanc cyflawn gyda llawer o hyder ac mae hynny’n ardderchog.”

 

 

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Ieuan Davies

“Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd na chefais i’n blentyn.”

Dyna eiriau Ieuan Davies sy’n hyfforddi sgwad hoci bechgyn dan 18 oed Cymru, rhaglen 360 Canolbarth y De ar gyfer datblygu chwaraewyr, ac ail dîm a rhaglen iau Clwb Hoci Caerdydd a’r Met.

Cryn dipyn o her i unrhyw un, heb sôn am ŵr ifanc sy’n cwblhau ei Astudiaethau Ôl-radd mewn Hyfforddi Chwaraeon.

Ond mae ei benderfyniad a’i egni’n deillio o’r ffaith na chafodd ef gyfle erioed i gael unrhyw hyfforddiant chwaraeon real yn blentyn:

“Fe ddois i at hoci’n eithaf hwyr. Fe wnes i dyfu i fyny’n chwarae llawer o griced ond ’chefais i erioed gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi strwythuredig, er fy mod i’n byw 200 llath yn unig oddi wrth gae criced. Felly, rydw i’n meddwl fy mod i’n teimlo ’mod i wedi bod ar fy ngholled.”

Er gwaethaf diffyg modelau rôl mewn hyfforddi, disgleiriodd dawn naturiol Ieuan yn fuan iawn:

“Roeddwn i a fy ffrindiau’n arfer hyfforddi ein gilydd. Wedyn, pan oeddwn i’n tua 14 oed, fe wnes i ddarganfod hoci drwy Ysgol Bryntawe. Er ’mod i wedi dod at hoci’n eithaf hwyr, roeddwn i’n gwybod sut i wella fy ngêm. Roeddwn i bob amser yn gweithio’n galed ar y sgiliau ar ôl bod mewn sesiwn, sgiliau yr oedd eraill wedi’u dysgu wrth ddechrau chwarae’n tua wyth oed.”

Nawr, wrth gwrs, mae’r angerdd dros hyfforddi’n cael ei gyfeirio at eraill. Yn ei rôl dros Gymru, mae Ieuan wedi bod yn rhan o’r tîm hyfforddi mewn sawl digwyddiad, gan gynnwys EuroHockey Dan 16 ym mis Gorffennaf yn Lithwania, ble cipiodd Cymru’r aur.

Ymhlith ei lwyddiannau nodedig eraill mae sefydlu adran iau yng Nghlwb Hoci Caerdydd a’r Met.

Yng Ngemau Ysgolion y DU yn 2016, ef oedd yr hyfforddwr hoci ieuengaf, ar ôl cymryd yr awenau i oruchwylio sgwad bechgyn Dan 18 oed Cymru:

“Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael tîm i fi fy hun. Roedd yn grêt cael y cyfrifoldeb o weithio fy hun.”

A’r hyn sy’n ei sbarduno: “Y boddhad o ymrwymo amser i bobl a gweld hynny’n talu ar ei ganfed. Rydych chi’n gweld rhywun yn cael trafferth gyda sgil ac wedyn mae gwên lydan yn torri ar ei wyneb wrth lwyddo. Er gwaethaf pwysau arholiadau, mae ein chwaraewyr ni’n rhoi cymaint o amser o wythnos i wythnos ac felly mae’n deg ein bod ni’n cyfateb eu hymdrech nhw.”

Gyda chymaint o angerdd a phenderfyniad diwyro i lwyddo, mae’n glir bod Ieuan yn enw i’w nodi ar gyfer y dyfodol.

 

 

Yn Rownd Derfynol Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2016 – Joseph Jones

“Mae’n teimlo’n rhyfedd ennill gwobrau am wneud rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud,” dywedodd Joseph Jones yn wylaidd fel ymateb i’r newyddion ei fod ar restr fer Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016.

Ond eto mae’r gydnabyddiaeth yn gwbl haeddiannol. Eisoes eleni, mae Joe wedi ennill dyfarniad Mileniwm 50 sy’n gwobrwyo 50 awr o wirfoddoli seiliedig ar chwaraeon.

Ymunodd y bachgen 19 oed o Landudno â’r rhaglen Delwedd Iach gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy ddwy flynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi helpu mewn sesiynau a digwyddiadau dirifedi.

Nod y rhaglen yw ysbrydoli pobl ifanc yng Nghonwy i fod yn fwy egnïol a chael profiad positif mewn gwahanol chwaraeon. Mae’n hybu ffyrdd iach o fyw ac yn helpu i leihau ymddygiad o gymryd risg.

Mae’n hyfforddi llu o chwaraeon, gan gynnwys pêl droed, tennis a badminton.

Dydi hon ddim yn dasg hawdd pan fyddwch yn ystyried ei fod yn ei flwyddyn olaf yn y coleg a hefyd yn gofalu am ei fam, sydd wedi cael strôc chwe blynedd yn ôl:

“Mae Mam eisiau bod mor annibynnol â phosib ond os ydi hi angen help, rydw i yno iddi hi.”

Ac mae hi’n hynod falch o’i mab:

“Mae’n dweud fy mod i wedi aeddfedu llawer ers gwirfoddoli ac mae’n falch fy mod i’n fodel rôl i blant iau.

“Rydw i wrth fy modd yn gweld y mwynhad ar eu hwynebau nhw. Dydyn ni ddim yn eu gweld nhw’n yfed cymaint o ddiodydd pefriog nawr, nac yn bwyta cymaint o fwyd cyflym. Mae eu lefelau ffitrwydd nhw wedi gwella hefyd. Rydw i’n mwynhau rhoi’n ôl i’r gymuned – yn wir, mae’n gwneud i chi deimlo’n grêt!”

Mae Joe wedi tyfu i fyny gyda nam ar ei leferydd ond mae’n dweud bod hyfforddi wedi rhoi hyder newydd iddo:

“Doeddwn i ddim yn gyfforddus mewn sefyllfaoedd siarad. Ond mae gwirfoddoli wedi rhoi llawer iawn o hunan-gred i mi oherwydd mae wir wedi fy ngwthio i’r tu hwnt i be sy’n gyfforddus i mi.”

Mae’n wir. Yn ddiweddar, helpodd i gyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth o iechyd i fwy na 200 o ddisgyblion mewn ysgol leol – rhywbeth nad oedd yn disgwyl ei gyflawni byth oherwydd ei nam.

I Wasanaeth Ieuenctid Conwy, mae’n un o’u gwirfoddolwyr mwyaf dibynadwy, ymroddedig a brwd. Felly gwylaidd ai peidio, mae’n edrych yn debyg y bydd rhaid i Joe ddechrau arfer gyda chael cryn dipyn o sylw.

 

Yn Rownd Derfynol Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Gwenan Williams

I Gwenan Williams, mae helpu i ysbrydoli mwy o blant i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ei gwaed hi:

“Mae Mam yn athrawes AG ar Ynys Môn ac roeddwn i’n arfer ei gweld hi’n cael cymaint o hwyl. Mae hi wedi fy ysbrydoli i.”

Mae’n amlwg bod Gwenan, sy’n 18 oed, wedi cael yr un genynnau. Mae hi yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn awr, ym Metropolitan Caerdydd, ond yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol daeth yn Llysgennad Ifanc Platinwm – sef gris uchaf yr ystol yn y mudiad sy’n cael effaith enfawr ar lefelau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion ledled Cymru.

Arweiniai dri sesiwn chwaraeon allgyrsiol yr wythnos yn yr ysgol. Hefyd hyfforddai’r llysgenhadon eraill fel eu bod hwythau’n gallu ysbrydoli cyd-ddisgyblion.

A chan fod plant yn llai tebygol o deimlo’n gyfforddus yn gwneud chwaraeon ar ôl cyrraedd yr ysgol uwchradd, bu Gwenan – sy’n taflu gwaywffon a maen ei hun – yn helpu plant mewn ysgolion cynradd i setlo i mewn yn haws drwy gynnal sesiynau chwaraeon yn yr ysgol uwchradd cyn iddyn nhw symud i fyny.

Mae ei gwaith caled wedi talu ar ei ganfed:

“Cafodd mwy o blant eu hysbrydoli i gymryd rhan oherwydd roedden nhw’n gwybod y byddwn i’n ei wneud yn hwyl. A chan fy mod i wedi hyfforddi disgyblion eraill i fod yn llysgenhadon arian, fe wnaethon nhw chwarae mwy o ran mewn cynnal sesiynau amser cinio.”

Mae hi hefyd wedi helpu i ddatblygu rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yn yr ysgol anghenion arbennig newydd, Canolfan Addysg y Bont.

Bu’r ferch ifanc hyderus sy’n manteisio ar bob cyfle nid yn unig yn helpu i ddatblygu pecyn hyfforddi addas ar gyfer yr ysgol, ond hefyd aeth ati i hyfforddi a mentora Llysgenhadon Ifanc yn yr ysgol. Fe wnaeth hi ddatblygu ac arwain rhaglen allgyrsiol gyntaf erioed yr ysgol o sesiynau hyd yn oed:

“Rydw i eisiau bod yn athrawes AG ond fe wnes i feddwl pam aros nes ’mod i’n graddio i wneud beth rydw i eisiau ei wneud? Mae’r cyfan wedi bod yn brofiad ffantastig,” esboniodd. “Mae’n ehangu fy mhrofiad i o weithio gyda gwahanol oedrannau a gwahanol alluoedd.”

Mae hi hefyd wedi bod yn wyneb cyfarwydd mewn digwyddiadau ledled Ynys Môn. Helpodd i drefnu Twrnamaint Pêl Droed Merched Ynys Môn a Gwynedd ac mae wedi gwirfoddoli yn Nhriathlon Sandman, Ras Yr Ynys, mewn cystadlaethau mewn ysgolion cynradd lleol a gyda’r Urdd.

Hefyd, fel pe bai hynny ddim yn ddigon, mae’n dod o hyd i amser i wirfoddoli yng Nghlwb Pêl Rwyd Llangefni.

“Mae gen i angerdd mawr dros chwaraeon ac rydw i’n meddwl bod hynny’n dangos. Dydw i heb deimlo bod y cyfrifoldebau wedi bod yn faich o gwbl. Rydw i wedi mwynhau bob amser.

“Y pleser i mi ydi gweld y plant yn mwynhau’r sesiwn, yn cymdeithasu ac yn cael hwyl. Dyna’r wobr – dydw i ddim yn ei wneud o i gael fy nghydnabod nac i gael gwobrau crand. Mae chwaraeon yn lle i chi gael hwyl, heb deimlo dan straen.”

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2016 – Paul Crapper

“Nid dim ond hoffi beicio ydw i. Mae gen i obsesiwn.”

Mae Paul Crapper yn dad i bump o blant ac mae ganddo fusnes glanhau ffenestri. Ond eto mae’n dal i lwyddo i hyfforddi beicio ar gyfer Clwb Ffordd Y Fenni wyth awr yr wythnos

“Yn anffodus i fy ngwraig,” chwertha. “Mae hi’n anhygoel. ’Fyddwn i ddim yn gallu gwneud hanner yr hyfforddiant heb ei chefnogaeth hi.”

Mae’r gŵr 47 oed yn Brif Hyfforddwr yng Nghlwb Ffordd y Fenni ac mae’n arbenigo mewn traws-feicio a beicio mynydd.

Bob bore Sadwrn, mae’n rhedeg sesiynau beicio mynydd i ferched yn unig rhwng 9am a 10:30am (sydd, yn ystod y gaeaf, yn troi’n sesiynau traws-feicio canolraddol i oedolion). A chyn gynted ag y mae wedi gorffen hynny, mae’n troi ei sylw at Go-Ride tan hanner dydd, gyda hyd at 80 o blant yn cymryd rhan.

Mae ei sesiynau traws-feicio i ferched wedi ennill lle i’r clwb yn rownd derfynol Gwobrau Be a Game Changer y Women’s Sports Trust hyd yn oed, am y fenter leol fwyaf ysbrydoledig.

Mae’n CV hyfforddi nodedig yn sicr, o gofio mai dim ond pum mlynedd yn ôl y dechreuodd feicio:

“Fe wnaeth fy mab i ymuno â’r clwb ac wedyn fe wnes i ddechrau cymryd rhan. Fe wnes i ofyn oedd arnyn nhw angen unrhyw help ac fe ddechreuodd y cyfan gyda hynny.

“Mae’n rhoi llawer o foddhad, gweld y cynnydd mae beiciwr yn ei wneud – yn feicwyr hŷn, iau, gwrywaidd neu fenywaidd. Rydych chi’n eu gweld nhw’n magu hyder. Mae wir yn ymwneud â chael pen olau ar feiciau am oes!”

“Mae gennym ni ferched oedd heb freuddwydio erioed am fynd ar gefn beic traws-feicio. Nawr maen nhw’n cystadlu!”

Mae ei sesiynau mor boblogaidd fel bod beicwyr yn teithio yno o bell bob wythnos:

“Gan mai fi ydw i, rydw i bob amser yn ceisio bod y gorau y galla’ i fod fel ’mod i’n gallu rhannu hynny hefo’r beicwyr, ac rydw i bob amser yn fy ngwthio fy hun ac yn dysgu rhywbeth newydd.”

Mae hefyd yn mentora’r hyfforddwyr mwy newydd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gyfforddus yn eu rôl ac yn gallu cyflwyno sesiynau sy’n herio ac yn gwella beicwyr. Yn y cyfamser, mae clybiau eraill eisiau dysgu cyfrinach ei lwyddiant:

“Mae hyfforddwyr eraill eisiau dod i weld beth rydyn ni’n ei wneud. Mae pobl yn fy edmygu i, sy’n deimlad rhyfedd iawn. Dim ond fi ydw i – neb,” chwertha.

Ei her ddiweddaraf yw darparu sesiynau i feicwyr anabl:

“Rydw i’n credu’n gryf mewn bod yn gynhwysol ac rydw i’n falch iawn o allu dweud ein bod ni’n cynnig sesiynau i bobl anabl nawr.”

“Rydyn ni fel un teulu mawr,” gwena.

A diolch i sgiliau hyfforddi ac ymrwymiad Paul, mae’r teulu yma’n tyfu bob dydd.

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Mathew Lamb

Mae gan Mathew Lamb – neu Minty fel mae’n cael ei adnabod ar y cae – atgofion cynnes iawn o blentyndod yn llawn chwaraeon:

“Rydw i’n edrych yn ôl ac yn cofio llawer o bobl a fuddsoddodd cymaint o amser ac ymdrech i gynnal pethau ar gyfer y plant. Roedd yn amser pleserus iawn. Mae’n debyg mai dyna o ble mae fy angerdd i dros wirfoddoli wedi dod. Rydw i eisiau helpu i ddarparu’r plentyndod hwnnw a’r cyfleoedd hynny i blant heddiw.”

Ac mae’n gwneud gwaith gwych. Dyma ei 17eg tymor yn hyfforddi pêl droed. Mae wedi goruchwylio datblygiad y tîm Bechgyn a Merched Iau am y deng mlynedd diwethaf – ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnydd enfawr yn nifer y plant sy’n camu ar y cae bob wythnos.

Mae’n ymdopi â llu o gyfrifoldebau yn y clwb. Mae’n Is Gadeirydd ac yn Drysorydd ac yn llwyddo i oruchwylio’r timau merched a’r garfan anabledd iau, yn ogystal â dyletswyddau eraill dirifedi.

Mae ei waith gyda’r timau merched wedi gweld canlyniadau dramatig. “Fe ddechreuodd ryw dair blynedd yn ôl. Dydw i ddim yn gallu credu’r peth a dweud y gwir. Roedd 8-10 o ferched i ddechrau a’r llynedd roedd hyd at 73 o ferched wedi cofrestru.” Cyflawniad ardderchog i unrhyw glwb – heb sôn am glwb bychan mewn ardal wledig.

Y gyfrinach i lwyddo: “Rydyn ni’n gwneud pethau’n hwyl ac yn gwneud yn siŵr bod y merched yn teimlo’n gyfforddus. A thrwy wneud hynny, fe fyddan nhw’n dod yn ôl wythnos ar ôl wythnos.

“Rydw i hefyd yn edrych ar ôl yr ochr anabledd ac mae hynny’n donig i mi. Mae’r plant yma wedi bod drwy gymaint ac maen nhw’n goresgyn anawsterau bob dydd. Maen nhw’n sêr, pob un ohonyn nhw.”

Mae Mathew wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y cae pêl droed newydd a’r cyfleusterau yn Nhregroes. Ond hyd yn oed gyda chartref newydd, oherwydd ymrwymiad enfawr Mathew a’r clwb i ddarparu cyfleoedd chwaraeon yn lleol – does ganddyn nhw ddim digon o le o hyd:

“Ein menter nesaf ni yw criced iau fel bod rhywbeth y gallwn ni ei gynnig dros fisoedd yr haf. Fe wnaethon ni gynnal peilot ac roedd yn llwyddiant.”

Yn ogystal â gwirfoddoli rhyw 20 awr, mae hefyd yn gweithio’n llawn amser i’r awdurdod lleol:

“Mae fy mhartner i a fi’n jocio am hyn. Rydw i’n cyrraedd adref ac yn mynd allan i’r clwb yn syth. Ond os ydych chi wrth eich bodd, fe wnewch chi hynny,” meddai. “Ar ddiwedd yr hyfforddiant, mae’r plant i gyd yn dweud “Diolch Minty”. Fedrwch chi ddim gofyn am fwy na hynny na fedrwch?,” gwena.

A’i adwaith i gael ei enwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cymru:

“Doeddwn  i ddim yn gallu dweud dim pan glywais i. Rydw i wedi tyfu i fyny yn gwylio Personoliaeth Chwaraeon ond doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n cael rhywbeth fel hyn. Bydd bod yno – mewn blwyddyn mor arbennig i chwaraeon – yn brofiad diguro.”

Yn rownd derfynol Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Debra Cavill

Mae’n enwog am bowdwr golchi cyfrinachol ac yn aml mae’n mynd yn ddagreuol wrth lywio cystadlaethau gymnasteg.

Mae Debra Cavill, sy’n llawn egni diddiwedd, yn byw ac yn anadlu Clwb Gymnasteg Llanelli:

“Pe bawn i’n ddarn o graig, byddai Clwb Gymnasteg Llanelli’n rhedeg reit drwyddi hi!” chwertha’r wraig 51 oed.

“Rydw i wrth fy modd yn gweld y plant yn mwynhau, a’r tynnu coes – popeth!”

Does dim Cystadleuaeth Gymnasteg Artistig y Merched yng Nghymru’n gyflawn heb lais Debra Cavill. Mae’n arwain cystadlaethau ar gyfer y clwb, ardal y Gorllewin ac ar lefel genedlaethol:

“Rydw i’n eu gweld nhw’n dod drwy’r rhengoedd yn dair neu bedair oed nes cyrraedd oedran cystadlu,” dywedodd, yn emosiynol iawn. “Mae pob plentyn wedi gweithio mor galed, mae’n fy llonni i, oherwydd rydw i’n meddwl yn ôl ychydig o flynyddoedd, pan doedden nhw ddim yn gallu gwneud olwyndro.

“Rydych chi’n clywed cymaint am blant yn cymryd cyffuriau ac yn yfed alcohol. Ond os ydyn nhw’n cymryd rhan mewn camp, dydi hynny ddim yn digwydd. Mae’n bleser eu gweld nhw’n gwneud rhywbeth adeiladol.”

Taniwyd cariad Debra at Glwb Gymnasteg Llanelli pan oedd ei merch, Sophie, yn dair oed:

“Fe es i â hi i ddosbarth hamdden. Rydw i’n berson eithaf allblyg a siaradus ac yn fuan iawn roedden nhw wedi fy nghael i i gasglu’r ffioedd, oedd yn wych, oherwydd fe ddois i i adnabod pawb.”

Yn fuan iawn, roedd yn helpu gyda’r ymarferion cynhesu ac yn canu hwiangerddi i’r dosbarth. Ac yn fuan wedyn, roedd yn cydlynu’r dosbarthiadau hamdden, gan ddyfeisio cynlluniau sesiwn ar gyfer yr hyfforddwyr a gwneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

“Wrth i Sophie chwarae mwy o ran, felly minnau. Fe wnes i gymhwyso fel hyfforddwr artistig lefel dau a chwe blynedd yn ôl fe wnes i sefydlu grŵp rhiant a phlentyn.”

Rhoddodd ei merch y gorau i gymnasteg yn 15 oed ond wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Debra’n dal yn aelod brwd o’r clwb:

“Nid dim ond am y Nadolig ydw i – am oes,” chwertha. “’Fyddwn i ddim yn rhoi’r gorau iddi am aur y byd. Rydw i wrth fy modd. Rydyn ni fel un teulu mawr ac yn gwneud popeth fel tîm. Rydyn ni’n mynd ar wyliau gyda’n gilydd hyd yn oed! Rydw i wedi gwneud ffrindiau oes o bob cwr o Gymru a’r DU.”

Yn hyfforddwr ac arweinydd, mae Debra hefyd yn aelod pwyllgor, glanhawr, rheolwr cit a chodwr arian. Mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Technegol Merched Cymru. Mae ei hymrwymiad eithriadol, sy’n golygu ei bod yn cyfrannu 25 awr yr wythnos at y gamp, wedi ennill teitl anrhydeddus iddi’n ddiweddar, sef Gwirfoddolwr y Flwyddyn Gymnasteg Cymru.

Heb anghofio am y powdwr golchi cyfrinachol wrth gwrs:

“Rydw i’n mynd â phob un o’r 100 leotard adref ac yn eu golchi nhw gyda llaw. Rydw i’n enwog am fy mhowdwr golchi cyfrinachol sy’n gwneud iddyn nhw befrio. Rydw i wrth fy modd yn gweld fy nhŷ wedi’i oleuo mewn pinc! Fe ddylech chi eu gweld nhw i gyd pan maen nhw ar y lein ddillad. Mae fy nghymdogion i’n meddwl ’mod i’n wallgof!”

 

Yn rownd derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – Bob Perry and Richard Plenty

Cafodd Richard Plenty syniad arbennig o dda un bore. Mae gan ei ferch, Laura, barlys yr ymennydd a phedair blynedd yn ôl, gofynnodd am gael mynd i Glwb Sboncen Rhiwbeina ble roedd ei thad yn hyfforddi:

“Ac fe wnaeth fy nharo i’n sydyn iawn – pam yn y byd dydyn ni ddim yn darparu ar gyfer pobl ag anableddau?”

Mae’r siwrnai ers hynny i Richard a’i bartner yn y gwaith, Bob Perry, wedi bod yn un arloesol:

“Dydyn ni ddim wedi clywed am sboncen cadair olwyn yn cael ei gynnig mewn unrhyw glwb arall yn y byd,” dywedodd Richard.

Dyfarnodd Chwaraeon Anabledd Cymru insport aur i’r clwb am ei ymrwymiad i gynnwys – a dim ond dau glwb arall yng Nghymru sydd wedi cael yr anrhydedd yma.

Mae’r ddeuawd ddeinamig wedi ffurfio perthynas â Weston House – llety preswyl ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau a namau y mae Laura’n ei fynychu.

“Nos Lun ydi fy hoff noson i bob wythnos,” meddai Bob dan wenu. “Mae’r holl gwyno a’r poenau’n diflannu. Mae’n rhoi cymaint o hwb i chi. Mae eu hanableddau nhw ganddyn nhw 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ond dydyn nhw byth yn cwyno.

“Mae wir yn ein hymestyn ni fel hyfforddwyr. Wrth ddelio gyda gwahanol anableddau, mae’n rhaid i chi feddwl llawer mwy.”

Maen nhw’n defnyddio pêl ar linyn i ddarparu targed sefydlog i’r rhai llai abl i symud. Hefyd mae canon sboncen – sy’n saethu peli allan – yn ddefnyddiol iawn o’i raglennu i dargedu’r raced.

Maen nhw’n hyfforddi dau sesiwn sboncen penodol i anabledd a hefyd mae ganddyn nhw aelod anabl yn mynychu sesiynau prif ffrwd yn awr, yn chwarae gemau yn erbyn aelodau heb anabledd:

“Ein nod ni yw cael o leiaf pedwar defnyddiwr cadair olwyn yn aelodau o’r clwb, yn chwarae ochr yn ochr â’r rhai sydd ddim yn defnyddio cadair olwyn,” esbonia Richard.

Mae’r gair “Y” (ymddeol) yn air budr yng ngolwg Bob – “fe fydd raid i chi fy llusgo i o’ma’n cicio a sgrechian” – ac mae Richard yn awyddus i ehangu eu darpariaeth:

“Dyw e byth yn fwrn. Rydyn ni wrth ein bodd yn cael rhywbeth i’w wneud ar fore Sadwrn ac fe fyddwn i wrth fy modd yn sefydlu rhywbeth arall.”

Wrth holi am y gydnabyddiaeth i’w cyfraniad at chwaraeon anabledd a’u cymuned, ychwanegodd Bob:

“Er mai enwau Richard a fi sydd i mewn am y wobr, mae gennym ni dîm gwych o bobl sy’n helpu i wneud i hyn ddigwydd bob wythnos.

“A dydyn ni ddim yn ei wneud e i gael tystysgrifau, tlysau na gwobrau.

Nid dyna sy’n bwysig i ni. Rydyn ni’n caru’r gamp ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.”

Yn rownd derfynol Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Chris Landon

Mae Beicio yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr gyda beicwyr fel Geraint Thomas, Nicole Cooke, Becky James a Luke Rowe i gyd yn codi drwy’r rhengoedd i fod yn enwau cyfarwydd.

Ac mae un dyn sydd wedi bod yno ar ddechrau eu gyrfaoedd nhw. Chris Landon – Mr Trefnu Rasys anhygoel – sydd wedi llwyfannu a threfnu tua 60 o rasys dros gyfnod o 18 mlynedd:

“Nicole, Geraint, Luke… do, maen nhw i gyd wedi cystadlu yn rasys cylched Llandow,” meddai Chris.

“Un elfen fawr o’r hyn sy’n fy sbarduno i ydi fy mod i’n gallu helpu i roi cyfleoedd i’r rhai sy’n mynd ymlaen i wneud pethau mwy. Rydw i wir yn mwynhau trefnu rasys beicio iau ac mae bod yn rhan fechan o lwyddiant rhai o’n beicwyr enwocaf ni wir yn bleser.”

Yn wir, y Geraint Thomas ifanc oedd enillydd un o rasys cyntaf un Ras Ffordd Cadence – syniad penigamp blynyddol arall gan Landon – sy’n gweithredu fel rownd agoriadol Cyfres Rasys Ffordd Iau Genedlaethol Beicio Prydain a lle mae 100 o feicwyr ifanc 16-18 oed yn cystadlu ar ffyrdd.

Yn 2016 yn unig, mae Chris unwaith eto wedi bod wrth y llyw mewn nifer o rasys pwysig, gan gynnwys Ras Ffordd Cadence a Ras de Cymru (ar gyfer beicwyr lefel clwb a dyma’r ras gymal hiraf yn y DU ac eithrio Tour of Britain a Phencampwriaethau Rasio Ffordd Iau Beicio Prydain).

Mae mor uchel ei barch bellach fel ei fod yn cael ei alw’n aml gan Feicio Prydain i drefnu digwyddiadau. Mae hefyd yn gwasanaethu ar fwrdd Beicio Prydain fel Is Gadeirydd ac yn mwynhau swydd ran amser gyda Beicio Prydain yn cynnal asesiadau risg o gyrsiau a lleoliadau.

Yn wylaidd a dirodres, mae’n amlwg nad yw Chris yn gyfforddus yn cael yr holl sylw – mae’n well ganddo fod yn y cefndir yn y gamp mae wrth ei fodd â hi:

“Y rhan orau o drefnu ras yw pan mae’r cyfan wedi gorffen ac rydych chi’n clywed y beicwyr i gyd yn siarad amdani – beth oedd yn anodd, beth wnaethon nhw ei fwynhau. Wedi’r cyfan, dyna beth yw holl bwrpas beicio – wynebu her gorfforol a meddyliol.”

Mae’n amlwg mai ei hoffter o’r gamp a’r gymuned feicio sy’n parhau i’w sbarduno flwyddyn ar ôl blwyddyn.