UN O HOELION WYTH BYD CRICED SIR BENFRO I DDERBYN GWOBR CYFLAWNIAD OES

Ar ôl mwy na 40 mlynedd wrth y llyw yn y byd criced yng Nghymru, bydd Nick Evans yn derbyn gwobr cyflawniad oes gymunedol yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016.

Mae’r gŵr 76 oed o Narberth yn Sir Benfro wedi cael clod am arloesi gyda hyfforddi cymunedol ac am ddatblygu gêm y merched.

Bydd yn cael ei gydnabod am ei gyflawniadau yn y gamp yn y seremoni nos Lun 5ed Rhagfyr.

“Mae pobl yn tynnu coes am fy mod i’n dal i chwarae a hyfforddi yn fy oedran i,” chwertha. “Ond mae’n eich cadw chi’n ifanc. Rydw i’n dal i allu bowlio, rydw i’n heini, felly pam lai? Mae bod yng nghwmni pobl ifanc yn cael dylanwad arno chi on’d yw e? Er ’mod i ar goll braidd pan maen nhw’n dechrau siarad am Facebook ac iPads.”

Roedd Nick yn un o’r criw a sefydlodd Gymdeithas Hyfforddwyr Criced Sir Benfro yn 1979 ac ers hynny mae wedi cyflwyno miloedd o bobl ifanc i griced.

Maen nhw’n cynnwys chwaraewyr presennol Morgannwg, Andrew Salter a Jack Murphy, yn ogystal â phêl droediwr Cymru, Joe Allen, a’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jonathan Thomas:

“Mae’n rhoi cymaint o foddhad, gweld y chwaraewyr yn dod drwodd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n chwarae criced yn y diwedd. Roedd Joe Allen yn athletwr rhagorol erioed ac yn fowliwr gwych, ac roedd yn dda am gadw wiced hefyd. Roeddwn i’n arfer ei godi e i fynd i’r ymarfer a’i ollwng adref wedyn ac rydw i’n cofio’n glir y diwrnod wnaeth e ddechrau chwarae i Abertawe.”

Mae’r gŵr 76 oed yn dal i roi ei holl amser sbâr mwy neu lai i chwarae, hyfforddi a gweinyddu criced yn Sir Benfro. Ef yw’r Rheolwr Rhanbarthol ac mae hynny’n golygu goruchwylio’r holl reolwyr a hyfforddwyr yn y grwpiau oedran amrywiol. Yn y 1980au a’r 90au, arloesodd gyda chriced merched yng Nghymru ac mae’n cael ei gydnabod gan lawer am dorri tir newydd yn y maes yma:

“Fe wnes i ddechrau criced merched yn Sir Benfro yn y 1980au ac wedyn fe gefais i wahoddiad i sefydlu carfan merched Cymru.”

Heddiw, mae’n Llywydd ac yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Hyfforddwyr Criced Sir Benfro ac yn hyfforddwr ar chwaraewyr rhanbarthol Dan 10 i Dan 15 Sir Benfro (bechgyn a merched).

Yn gynharach eleni, cafodd Wobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Criced Cymru 2016 am Wasanaeth Eithriadol i Griced.

“’Sa i erioed wedi meddwl y byddwn i’n casglu gwobrau am rywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud,” dywedodd Nick. “Nid dyna pam rydw i wedi’i wneud e. Rydw i wedi cael cymaint o bleser, cyfarfod ffrindiau oes a theithio’r byd ar yr un pryd.”

Mae Nick wedi teithio’r byd yn sicr, gan fwynhau teithiau i Dde Affrica, Seland Newydd, Awstralia, y Caribî, De America a Sri Lanka.

“Rydw i wedi rhoi oes i griced. Ond rydw i wedi mwynhau pob munud.”

Bydd cyflawniadau Nick yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016 nos Lun 5 Rhagfyr yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd a bydd yn rhannu’r llwyfan gydag enillwyr mawr eraill y noson, gan gynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn, a Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales.

Bydd cyfle i gefnogwyr wylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw o 7.30pm ymlaen nos Lun 5 Rhagfyr yn bbc.co.uk/sportwales a hefyd ar BBC iPlayer ac ar y Botwm Coch. Bydd y digwyddiad yn fyw ar BBC Radio Wales hefyd.

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth gan BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru. Ei nod yw cydnabod y cyflawniadau gorau ar lefel elitaidd a chymunedol yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i walessportawards.org.uk

#WSA2016

Yr hyfforddwraig o Gwmbrân Vicki Randall yw Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru 2016

Mae hyfforddwraig pêl-rwyd a phêl-droed gwirfoddol o Gwmbrân, sydd wedi annog dros 200 o ferched ifanc i chwarae’r gêm bob wythnos, wedi ei henwi heddiw (Dydd Gwener 25 Tachwedd 2016) yn Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru 2016.

Sefydlodd yr athrawes Ymarfer Corff Vicki Randall, 29, glwb pêl-rwyd Ieuenctid Cwmbrân yn 2009, gyda dim ond 5 o enethod. Nawr mae gan y clwb 14 tîm. Mae tair o’r chwaraewyr wedi eu dewis yn ddiweddar ar gyfer sgwad Cymru dan 17 oed. Mae hi hefyd yn trefnu clwb wythnosol ‘netball tots’ ar gyfer plant rhwng 1 a 5 oed.

Mae Vicki hefyd yn rhedeg Clwb Pêl-droed Rhisga, gan reoli pob un o’u timau yng Nghynghrair De Ddwyrain Cymru.

Trodd Vicky at hyfforddi ar ôl cael ei gorfodi i roi heibio chwarae pêl-rwyd a phêl-droed oherwydd anaf. Mae wedi cael naw llawdriniaeth ar ei phen-glin ac wedi parhau i hyfforddi, weithiau ar faglau neu mewn cadair olwyn.

Hefyd sefydlodd Vicki dîm pêl-droed y ‘Cwmbrân Celtic Ladies yn 2012, gan eu harwain i ennill dyrchafiad i Brif Gynghrair Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach. Hefyd dechreuodd dîm wrth-gefn i annog menywod i ymgymryd â’r gamp.

Fel arfer bydd yn treulio pedair noson yr wythnos yn hyfforddi chwaraeon ar ôl bod yn y gwaith, weithiau’n cynnal mwy nac un sesiwn bob nos. Ar benwythnosau bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i Sadyrnau yn trefnu gemau a thwrnameintiau pêl-rwyd, cyn rhoi hyd at saith awr ar ddydd Sul i’w thimau pêl-droed.

Enwebwyd Vicki gan Ann Daley o Bont-y-pŵl y mae ei merch yn chwarae pêl-rwyd gydag Ieuenctid Cwmbrân.

Dywedodd Ann Daley: “Mae Vicki wedi rhoi gymaint i gynifer o bobl, gan wirfoddoli ei holl amser rhydd. Mae wedi cael effaith anferth o ran cynyddu lefelau cyfranogaeth mewn chwaraeon ar gyfer genethod a menywod yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae Vicki yn Arwr Tawel go iawn.”

Bydd llwyddiant Vicki yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2016 ar Ddydd Llun 5 Rhagfyr yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd, lle bydd yn rhannu’r llwyfan gydag enillwyr mawr eraill y noson gan gynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Gall cefnogwyr wylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw o 7.30pm ymlaen nos Lun 5 Rhagfyr ar bbc.co.uk/sportwales a hefyd ar BBC iPlayer a’r Botwm Coch. Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Wales.

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn ddigwyddiad a drefnir mewn partneriaeth gan BBC Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’n anelu at gydnabod y cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elité a chymunedol yng Nghymru.

Yn Rownd Derfynol Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Megan Curling

Efallai mai dim ond 16 oed yw Megan Curling ond mae ganddi nod pwysig: newid bywydau merched ym Mhen-y-bont ar Ogwr er gwell.

Cryn dipyn o dasg yn wir ond eisoes mae’r ferch ifanc yma, sy’n Llysgennad Ifanc Aur ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, yn gwneud gwahaniaeth:

“Yn fy ysgol i, mae’r merched yn fwy hyderus. Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau fel llafnrolio, pêl fasged a sesiynau sgiliau.

“Rydw i’n mwynhau chwaraeon ac felly’n hoffi gweld plant eraill yn mwynhau hefyd. Mae’n braf eu gweld nhw’n egnïol ac yn cael hwyl. Does ganddyn nhw mo’r gefnogaeth na’r anogaeth i fod yn egnïol gartref o angenrheidrwydd ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud hyn.”

Mae gan Megan nid yn unig agwedd aeddfed o ran cydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ond hefyd mae’n cyfrannu dawns a sbarc at weithgareddau, sydd ond yn bosib gan rywun 16 oed efallai:

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar y merched sydd ddim yn gwneud llawer o chwaraeon ac yn gwneud pethau ychydig yn wahanol i’w denu nhw – er enghraifft, cynnig cyfle iddyn nhw gael steilio eu gwallt ar ôl sesiwn chwaraeon.

“Hefyd rydyn ni’n cynnal llafnrolio yn y tywyllwch – unrhyw beth i’w denu nhw!” chwertha.

Yn ogystal â’i hymrwymiad i Ysgol Gyfun Maesteg, mae hi hefyd yn mynd yn ôl i’w hysgol gynradd i gyflwyno sesiynau aml-sgiliau.

Ac ar ben hynny i gyd – a’i gwaith ysgol, wrth gwrs – mae’n llwyddo i ddod o hyd i amser i hyfforddi plant saith oed yn y clwb trampolinio lleol.

Ac mae pobl wedi dechrau sylwi ar waith Megan wrth iddi geisio gwneud gwahaniaeth. Yn gynharach eleni, cafodd wahoddiad i Lundain i helpu i gynnig syniadau i fusnes byd-eang, CGI, er mwyn sicrhau nawdd ar gyfer digwyddiad Pŵer Merched blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar ôl llwyddo i ddenu CGI fel noddwr, gofynnodd Pen-y-bont ar Ogwr am help Megan eto wedyn, yn y digwyddiad Pŵer Merched, a gwnaeth argraff yno ar bartneriaid dylanwadol fel Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf a hefyd Is Lywydd CGI.

Mae ganddi CV ardderchog yn sicr a llawer iawn o egni – mae’n saff dweud y byddwn ni’n clywed llawer mwy am  Megan Curling yn y dyfodol.

Yn Rownd Derfynol Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Delyth Jones

Mae’n ymddangos fel pe bai Delyth Jones yn byw ac yn anadlu er mwyn bod wrth y pwll:

“Wel, ie, mae llawer o bobl yn dweud ’mod i’n byw yn y lle,” chwertha.

Mae ei hymrwymiadau amser yn cyfateb bron i’w swydd lawn amser gyda’r GIG. Mae hi wrth ochr y pwll bob dydd ar wahân i ddydd Sadwrn a phan mae hi adref, dydi ei ffôn, ei gliniadur a’i gwaith papur byth yn bell:

“Mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser – dogfennau swyddogol ar gyfer galas, ffurflenni cystadlu, trefnu digwyddiadau …” Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Fe ddechreuodd y cyfan pan ddechreuodd ei phlant hi gael gwersi nofio a symud i’r clwb:

“Fe ddechreuais i helpu ac fe ddatblygodd o hynny. Nawr, 12 mlynedd yn ddiweddarach, rydw i dal yma. Mae’r clwb yn gwneud cynnydd yn sicr, gyda mwy o aelodau, ac rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o hynny. Rydyn ni fel teulu mawr yma,” esbonia.

Ond mae pob clwb yn cael cyfnodau da a chyfnodau llai llwyddiannus, a 12 mis yn ôl, gadawodd hyfforddwr y Dreigiau. Cawsant drafferth dod o hyd i gapten newydd ond roedd Delyth yn benderfynol o gadw pethau i fynd:

“Fe wnes i benderfynu, os mai hynny fyddai’r peth olaf fyddwn i’n ei wneud cyn i’r clwb gau, bod rhaid i mi wneud popeth posib i sicrhau bod pethau’n dal i fynd, nes i ni ddod o hyd i hyfforddwr newydd.”

Roedd hi’n allweddol yn y gwaith o gynnal diddordeb y nofwyr a’u cymell nhw nes dod o hyd i bennaeth newydd ym mis Ionawr eleni.

Mae Delyth yn arwain hefyd ar Dîm Datblygu Sir Ddinbych. Mae’n cynnwys pedwar clwb nofio yn y sir ac mae’n trefnu hyfforddiant yn Stockport sawl gwaith y flwyddyn, yn ogystal â chystadleuaeth yn Sheffield bob mis Hydref:

“Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi’n sylweddoli’r holl bethau rydych chi’n eu gwneud, heb eistedd i lawr a dechrau eu rhestru nhw. Ond rydw i wrth fy modd a ’fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth.

“Mae gweld y plant yn magu hyder yn deimlad mor arbennig. Pan maen nhw’n cerdded at ochr y pwll am y tro cyntaf i gystadlu o flaen torf, rydych chi’n gallu gweld eu bod nhw’n nerfus. Ond ar ôl y troeon cyntaf, maen nhw’n hyderus.

“Ac maen nhw wastad eisiau gwneud yn well y tro nesaf. Dyna sy’n anhygoel – maen nhw bob amser yn ceisio cyrraedd nod.”

Ac er bod ei merch Lois, sy’n 17 oed erbyn hyn, yn bwriadu gorffen yn y clwb mewn rhyw flwyddyn, does gan Delyth ddim bwriad i gadw ei chlipfwrdd ar hyn o bryd:

“Dim peryg! Rydw i wrth fy modd yn gwneud hyn. Fedrai ddim cerdded i ffwrdd oddi wrth hynny!”

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – Emily Griffiths

Mae’n dweud mai nofio yw’r “gamp fwyaf anghymdeithasol erioed” ond dydi Emily Griffiths ddim yn gallu dychmygu bywyd heb fod yn hyfforddi ar ochr y pwll.

Hi yw Prif Hyfforddwr Titans De Cymru – academi nofio Baralympaidd ar gyfer Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr; gan feithrin talent o byllau ym mhob un o’r tair ardal:

“Ein nod ni yw helpu nofwyr i wneud cynnydd i glwb prif ffrwd neu, gan ddibynnu ar lefel yr anabledd, efallai ei bod yn fwy priodol iddyn nhw aros gyda ni.

“Fe fydden ni wrth ein bodd yn dod o hyd i Baralympian y dyfodol ond heb gael pobl i’r pwll nawr, ’fyddwn ni ddim yn dod o hyd i un.”

Ond nid i bencampwyr y dyfodol yn unig mae’r clwb:

“Mae nofwyr yn dod atom ni ac yn aml maen nhw wedi clywed y gair “methu”. Mae gennym ni fachgen wnaeth ddweud wrtha’ i nad oedd e’n gallu nofio pili pala ond ei fod wir eisiau gwneud hynny. Fe ddaeth atom ni a’r diwrnod o’r blaen, fe nofiodd hyd y pwll yn y dull. Roedd e a’i fam yn crio. Efallai nad yw’n edrych fel dull pili pala’r llyfrau hyfforddi, ond mae’n gweithio iddo fe.”

Cafodd Emily ei magu yng Nghaerloyw ac roedd yn hyfforddi ac yn cystadlu pan gafodd anaf:

“Roeddwn i’n 16 oed ac mewn hwyliau drwg. Fe ddywedodd Mam wrtha’ i am fynd allan o’r tŷ a gwneud rhywbeth am fy mod i’n mynd ar ei nerfau.”

Ac felly fe aeth hi i’r pwll a dechrau hyfforddi’r rhai bach. Yn fuan wedyn, clywodd bod y sgwad anabledd angen help hefyd.

Ers hynny mae wedi symud i Ben-y-bont ar Ogwr ac wedi bod yn meithrin talentau’r Titans ers dwy flynedd. Ers iddi fod wrth y llyw, nid yn unig mae nifer yr aelodau wedi cynyddu, ond mae goreuon personol wedi cael eu cyflawni.

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn brysur iawn. Cafodd ei dewis i hyfforddi Team UK yn y Gemau Invictus ac wedyn ei phenodi’n Brif Hyfforddwr ar gyfer y Warrior Games. Mae ei gwaith caled wedi ennill lle iddi fel Hyfforddwr Nofio Cymru ar gyfer y Pencampwriaethau Para-Nofio Cenedlaethol hefyd.

Mae i’w gweld ar ochr y pwll bedair noson yr wythnos ac ar fore Sul. Ac mae’n hyfforddi’n frwd fel hyn ochr yn ochr â’i swydd yn ystod y dydd fel Cydlynydd Adferiad Chwaraeon i Help for Heroes. Ond mae hi wrth ei bodd a ’fyddai hi ddim yn newid unrhyw beth:

“Nofio ydi fy mywyd i. Dydw i ddim yn meddwl y daw ‘na adeg pan na fydda’ i’n cymryd rhan. Does dim un diwrnod yr un fath a does dim un nofiwr yr un fath chwaith. Mae gweithio gydag anableddau a namau amrywiol yn fy nghadw i ar flaenau fy nhraed.

“Mae’n gallu bod yn flinedig weithiau ond mae rhywbeth newydd i’w ddysgu o hyd. A phan mae’r nofwyr yn dweud diolch ar ddiwedd y sesiwn? Wel dyna’r cyfan rydych chi ei angen ynte?”

 

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Daniel Johnsey

Mae Daniel Johnsey yn dweud ei fod yn fyw heddiw am ei fod yn nofio. Roedd yn 11 oed ac yn aros am fws ysgol pan gafodd ei daro i lawr gan gar a oedd yn teithio’n gyflym.

Cafodd anaf i’w ben a thorrodd ei belfis a’i fraich a bu bron iddo golli ei droed chwith. Mewn coma am 10 diwrnod ac mewn cyflwr ‘dan glo’ am bum mis, mae  Daniel wedi cael 32 o lawdriniaethau ers hynny:

“Nofio yw’r unig reswm rydw i yma heddiw,” esbonia Daniel. “Roeddwn i wastad wedi mwynhau mynd i’r pwll ac roeddwn i’n hoff iawn o chwaraeon, ac felly roedd gen i ysgyfaint cryf.”

A nawr, 11 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n rhoi’n ôl i’r gamp wnaeth ei achub, gan roi ei amser i hyfforddi yng Nghlwb Nofio Anabledd Seals Casnewydd:

“Rydw i wedi bod yn nofiwr er pan dwi’n cofio. Cyn fy namwain, roeddwn i ar fin sicrhau lle yn sgwad Cymru.

“Ar ôl fy namwain, roedd y clwb – a Mam a Dad wrth gwrs – yn help mawr i ’nghael i’n ôl ar fy nhraed.

“Wedyn fe wnes i ddechrau helpu – dim ond rhannu’r offer a helpu i dacluso, ac fe ddatblygodd pethau o hynny. Rydw i’n hoffi helpu’r plant ac yn mwynhau eu gweld nhw’n gwella.”

Yn ogystal â’i waith gyda Seals Casnewydd, mae Daniel wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Chwaraeon Anabledd Cyngor Sir Fynwy yn helpu pobl ifanc i gamu o ddosbarth gymnasteg bychan, penodol i anabledd, i’r ystafell ffitrwydd prif ffrwd yng Nghanolfan Hamdden Caldicot.

Hefyd mae wedi hyfforddi yn nigwyddiad cyfres insport Gwent Egnïol yng Nghasnewydd ac wedi gwirfoddoli mwy na 50 awr yn rhaglen haf Mongames yng Nghaldicot. Yno fe fu’n hyfforddi merch ifanc oedd wedi methu troi drwy wneud tin-dros-ben yn ei gwersi nofio. Erbyn diwedd yr haf, roedd Daniel wedi llwyddo i’w chael i wneud hynny.

Mae’r hyfforddi wedi rhoi llawer iawn o hyder iddo. I gydnabod ei gyfraniad i’r gymuned, cafodd gludo’r fflam Olympaidd yn 2012. Nawr mae’n bwriadu ceisio dod o hyd i rôl sy’n talu ym maes ffitrwydd neu’n hyfforddi nofio.

I’w fam falch, Sarah, a gafodd wybod na fyddai byth yn cerdded eto, mae ei gynnydd wedi bod yn anhygoel:

“Mae’r ffaith ei fod yn gallu cerdded yn wyrth hyd yn oed ac mae wedi gweithio mor galed i gyrraedd ble mae e heddiw,” esbonia. “Dyw e ddim yn sylweddoli beth mae e wedi’i gyflawni; mae e mor hamddenol.”

 

 

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn – Deb Bashford

“Rydw i eisiau defnyddio fy anabledd i helpu eraill. Mae’n allwedd i ddrws i helpu pobl sy’n cael anawsterau.”

Mae Debbie Bashford yn 46 oed ac yn byw gyda chyflwr prin ar asgwrn ei chefn. Oherwydd haint yn ei choes yn 2005, a olygodd ei bod wedi gorfod ymladd am ei bywyd, mae hi hefyd wedi colli ei choes.

Er gwaetha’r ffaith ei bod wedi cael gorchymyn gan ei meddyg i orffwys yn rheolaidd yn ei gwely, mae gan Debbie angerdd di-ben-draw dros helpu eraill. O dan ei harweiniad, mae Clwb Pêl Fasged Cadair Olwyn Celts Caernarfon wedi datblygu i fod yn llwyddiant enfawr, gan ddarparu cyfleoedd nad oes eu tebyg yn yr ardal:

“Fe gefais i fy mharlysu o fy nghanol i lawr yn 11 oed. Doedd cynnwys ddim yn bodoli yn y 1980au a phan oedd yn amser am wersi AG, roeddwn i’n cael fy anfon i’r llyfrgell. Nawr rydw i’n gallu helpu pobl i fanteisio ar y cyfleoedd nad oedd ar gael pan oeddwn i’n tyfu i fyny.”

Mae’n gyflawniad enfawr i’r clwb bod dau aelod iau wedi cael eu dewis ar gyfer sgwad Cymru yn 2015. Ond nid dim ond chwarae i Gymru sy’n bwysig medd Debbie:

“Dydi pob clwb ddim yn gallu darparu ar gyfer pobl sydd ag anableddau mwy dwys, neu anableddau dysgu dwys. Ond roedden ni eisiau bod yn gynhwysol iawn a mynd yr ail filltir, felly fe wnaethon ni gynnig cyfleoedd pêl fasged cadair olwyn yn ein sesiwn iau. Mae gan rai o’r plant yma weithwyr cefnogi’n dod gyda nhw.

“Weithiau pan fydda’ i’n cyflwyno boccia mewn sesiynau allgymorth, mae pobl jyst eisiau siarad ac mae hynny’n iawn. Mae ochr gymdeithasol, seicolegol, emosiynol a meddyliol pethau’r un mor bwysig â’r corfforol.”

Yn awyddus i sicrhau bod y clwb yn hwyl i bawb, mae’n anfon cylchlythyrau at yr aelodau ac yn cynnal gwobrau chwaraeon, digwyddiadau gwisg ffansi a gemau cyfeillgar.

Mae’n gwneud cais am nawdd, yn cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol ac yn helpu i godi arian. Mae’n mynychu holl dreialon Cymru yng Nghaerwrangon ac yn teithio i’r Ganolfan Perfformiad Rhanbarthol yn Aberystwyth ar gyfer sesiynau hyfforddi Dan 15 Cymru.

Mae Debbie’n chwarae rhan allweddol ar Fforwm Pêl Fasged Cadair Olwyn Gogledd Cymru, yn trefnu cynghrair Gogledd Cymru ac yn rheoli sgwad Dan 19 Cymru.

A choeliwch neu beidio, mae’n gwneud mwy. Mae Debbie a’i thîm ymroddedig yn gwneud llawer iawn o waith allgymorth.

Trefnwyd cynllun chwarae pump wythnos ganddynt yn ystod gwyliau’r haf i blant 11-14 oed, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn blant abl eu corff. Cawsant gyfle i roi cynnig ar y cadeiriau chwaraeon;

“Cyn gynted ag y maen nhw’n gweld y cadeiriau, maen nhw eisiau rhoi cynnig arnyn nhw. Rydyn ni’n gallu rhoi syniad i bobl o beth mae anabledd yn ei olygu mewn gwirionedd.”

Mae’n gwella sgiliau athrawon i weithio gyda disgyblion sydd ag anabledd neu nam a hefyd yn dod o hyd i amser i fentora a hyfforddi pobl ifanc i hyfforddi:

“Rydyn ni i gyd yn gweithio mor dda gyda’n gilydd. Rydw i mor falch o’r clwb. Rydw i’n tueddu i osgoi seremonïau gwobrwyo. Mae cael fy enwi ar restr fer derfynol Gwobrau Chwaraeon Cymru i bawb yn y clwb – yr aelodau, y rhieni, y gweithwyr cefnogi, yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr i gyd. Jig-so ydan ni,” mynna.

“Fe gewch chi ddod drwy’r drysau gyda smotiau, streipiau, pedair coes, dau ben – does dim ots. Mae croeso i bawb. Cyn belled â’n bod ni’n gwenu ac yn chwerthin, rydw i’n gwybod ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn.”

 

 

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Roddie Milne

“Fel athro Taekwondo, dyna sut rydw i eisiau cael fy nghofio,” meddai Roddie Milne, sy’n dweud y byddai ar goll heb Glwb Taekwondo Llangollen:

“Rydw i wedi buddsoddi cymaint o amser ac ymdrech yn y clwb yma. Fe fyddai fel colli holl gynilion fy mywyd.”

Sefydlodd y tad 43 oed i bedwar o blant y clwb ym mis Ionawr 2015 ac mae wedi cael llwyddiant ysgubol eisoes, gan gasglu 55 o fedalau.

Ond, i Roddie, nid dim ond ennill medalau sy’n bwysig wrth gystadlu:

“Mae llawer mwy i’w gael o gystadlu mewn Taekwondo na dim ond ennill medalau. Fe allwch chi brofi i chi eich hun bod gennych chi ddewrder, cryfder a phenderfyniad.

“Gyda champ ymladd, mae’n rhaid i chi gael hyder enfawr i sefyll gyferbyn â gwrthwynebydd.”

Fe ddechreuodd y cyfan pan oedd ei fab hynaf, Dylan, yn dair oed:

“Roedden ni eisiau iddo fo gael gwneud gweithgaredd ac fe wnaethon ni benderfynu rhoi cynnig ar Taekwondo. Fe wnes i ddechrau cymryd rhan wedyn, er mwyn ei helpu o i ddechrau, ar ei raddau – sef y broses o weithio i fyny drwy’r system o wregysau.

“Ar y dechrau, fe wnes i feddwl y byddwn i’n cael gwregys gwyrdd ac wedyn yn gadael pethau felly … ond roeddwn i wedi gwirioni ac wedi dechrau ennill medalau, ac wedi syrthio mewn cariad efo taekwondo.”

Meddyliodd am ddechrau addysgu pan ddywedodd Dylan ei fod eisiau bod yn hyfforddwr yn 11 oed.

Cafodd Roddie ei wregys du yn 2010 a sefydlodd ei glwb ei hun bum mlynedd yn ddiweddarach, i’w basio ymlaen o dad i fab pan fydd ei “bengliniau’n stopio gweithio!”

Nawr mae’n hyfforddi ddwywaith yr wythnos gyda Dylan yn helpu. Mae rhai aelodau’n teithio 40 munud er mwyn dod i’r sesiynau:

“Rydw i wrth fy modd. Y teimlad yna o newid bywydau pobl sy’n arbennig.

“Fel rydw i’n gweld pethau, dydi’r aelodau ddim yn buddsoddi mewn taekwondo o angenrheidrwydd, ond yn yr athro, felly mae’n bwysig gwneud y sesiynau’n hwyl, er mwyn i bobl ddod yn ôl, ond rydyn ni’n cael canlyniadau hefyd.”

Mae ei dri phlentyn iau wedi gwirioni gyda’r gamp hefyd i gyd, ac wrth eu bodd yn cystadlu:

“Fe ddechreuodd y peth fel rhywbeth i dad a mab ei wneud gyda Dylan ond fe welodd y rhai iau beth oedden ni’n ei wneud ac roedden nhw hefyd eisiau rhoi cynnig arni. Felly mi rydan ni’n deulu taekwondo erbyn hyn!”

Yn ei farn ef, y sgil bwysicaf er mwyn bod yn hyfforddwr da yw amynedd:

“Os byddwch chi’n colli amynedd, fe fyddwch chi’n colli eu hyder nhw. Dydych chi ddim eisiau lladd hyder rhywun, rydych chi eisiau eu hannog nhw.

“Rydw i’n cael llawer iawn o foddhad pan rydw i’n gweld cynnydd mewn techneg, sgiliau a hyder. Maen nhw’n grefftwyr ymladd ac mae hynny’n fy ngwneud i’n falch iawn.”

CYHOEDDI RHESTR FER PERSONOLIAETH CHWARAEON Y FLWYDDYN BBC CYMRU 2016

Yn dilyn blwyddyn hanesyddol i chwaraeon Cymru, mae enwau’r wyth a fydd yn cystadlu am wobr fawreddog Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2016 wedi cael eu datgelu heddiw (dydd Mawrth, 22 Tachwedd).
Dyma’r cystadleuwyr:

  • Enillydd medal aur am daflu gwaywffon yn y Gemau Paralympaidd, HOLLIE ARNOLD, a fwynhaodd dymor heb ei threchu yn 2016
  • Pêl-droediwr rhyngwladol llwyddiannus Cymru, a enillodd Gynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid, GARETH BALE, oedd yn rhan o dîm Ewro 2016, gyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol
  • Enillydd medal aur yn y gweithgaredd tîm i’r beicwyr yn y Gemau Olympaidd, ELINOR BARKER, sydd hefyd wedi gwneud ei marc ar ôl troi at gystadlu’n unigol
  • Enillydd medal aur am daflu maen yn y Gemau Paralympaidd, ALED SIÔN DAVIES, a enillodd yr aur yn y taflu maen a’r ddisgen ym Mhencampwriaethau Ewrop hefyd, gan osod record Byd a Pharalympaidd ar yr un pryd.
  • OWAIN DOULL, beiciwr arall yn y gweithgaredd tîm yn y Gemau Olympaidd a gipiodd fedal aur ac sydd wedi mwynhau ei dymor gorau hyd yma.
  • Yr athletwraig taekwondo, JADE JONES, a lwyddodd i ddal gafael ar ei theitl Olympaidd a dod yn Bencampwraig Ewrop yn 2016 hefyd.
  • Y seren hwylio yn y Gemau Olympaidd, HANNAH MILLS, a ragorodd ar ei medal arian yn Llundain 2012 i gipio’r aur yn y dosbarth 470 yng Ngemau Rio 2016.
  • Pencampwr Pwysau Plu presennol y Byd IBF, LEE SELBY, a amddiffynnodd ei deitl eleni.

Penderfynir ar enillydd y wobr drwy bleidlais gyhoeddus, a chyhoeddir enw’r enillydd yn noson Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 nos Lun 5 Rhagfyr yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd.

Gall y cyhoedd bleidleisio dros y ffôn neu drwy neges destun, rhwng dydd Llun 28 Tachwedd a dydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Bydd manylion llawn am sut i bleidleisio ar gael ddydd Llun 28 Tachwedd ar wefan bbc.co.uk/cymrufyw

Cafodd y rhestr fer ei dewis gan banel o arbenigwyr sy’n cynnwys Paralympiad mwyaf llwyddiannus Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson; cyn-bêl-droediwr Cymru Nathan Blake; prif weithredwr Gymnasteg Cymru Rhian Gibson; y sbrintiwr a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gemau Olympaidd Christian Malcolm; ac fe gadeirir y panel gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Chwaraeon Lloegr, Nigel Walker. Dywedodd yntau, “Nid oedd yn dasg hawdd i benderfynu ar y rhestr fer hon, gyda chymaint o berfformiadau gwych gan sêr chwaraeon Cymru yn 2016. Bu’n rhaid i ni wneud dewisiadau anodd. Ond yn y diwedd, fe wnaethom gytuno i setlo ar wyth cystadleuydd sydd i gyd wedi ennill ar y lefel uchaf eleni ac wedi gwneud argraff sylweddol ar y gymuned chwaraeon yng Nghymru.”

Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn bartneriaeth rhwng BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru, i ddathlu’r cyflawniadau chwaraeon gorau ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae categorïau’r gwobrau’n cynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales.

Mae posib gwylio Gwobrau Chwaraeon Cymru 2016 yn fyw o 7.30pm ymlaen nos Lun 5 Rhagfyr ar bbc.co.uk/sportwales, BBC iPlayer ac ar y Botwm Coch. Darlledir y digwyddiad yn fyw ar BBC Radio Wales.

#WSA2016

Yn Rownd Derfynol Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Jamie Evans

Roedd Clwb Gymnasteg Tymblo Pencoed ar fin cau – nes i hyfforddwr ifanc gamu i’r adwy fel Prif Hyfforddwr.

Dim ond 19 oed oedd Jamie Evans bryd hynny a nawr, bum mlynedd yn ddiweddarach, mae ganddo uchelgais mawr eisoes ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y bachgen 24 oed brwdfrydig: “Roedd fy hyfforddwr i’n ymddeol ar ôl 20 mlynedd ac roedd y clwb ar fin cau. Fy adwaith i oedd, ‘dim peryg!’ ac fe wnes i lenwi’r bwlch. Nawr mae gen i gynlluniau i gael cyfleuster erbyn pan fyddai’n 30 oed.”

Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn y clwb. Ymunodd pan oedd yn saith oed ac yn fuan roedd yn gwybod mai ei hoff ddisgyblaeth oedd tymblo – ffurf ar gymnasteg sy’n cynnwys cyfres o droelli a throsbennu ar draws trac 25m. Yn 13 oed, roedd yn hyfforddi ei gyfoedion:

“Fe fyddwn i’n cystadlu a chymryd fy nhro ac wedyn yn hyfforddi gweddill y rhes.” Nawr mae’n un o’r ychydig hyfforddwyr tymblo yng Nghymru sydd â chymwysterau ar lefel uchel.

“Yn wahanol i’r rhan fwyaf o glybiau, mae ein plant ni’n aros i gystadlu tan eu harddegau hwyr,” esboniodd Jamie. “A hefyd mae llawer o ddiddordeb gan newydd-ddyfodiaid. Ers Gemau Olympaidd Rio, rydyn ni wedi cael llawer o alwadau am drampolinio mini. Felly rydw i wedi trefnu trydydd dosbarth hamdden i ymdopi â’r galw. Rydyn ni wedi derbyn 14 o aelodau newydd rheolaidd mewn dim ond pythefnos!”

Ym Mhencampwriaethau NDP Prydain y llynedd – sef y garreg gamu at Bencampwriaethau Prydain sy’n denu’r gymnastwyr tymblo addawol gorau o bob cwr o Brydain – dychwelodd Pencoed gyda’r nifer mwyaf o fedalau o blith clybiau Cymru. Camp enfawr i glwb gyda dim ond 25 aelod ar lefel sgwad.

Mae Jamie’n hyfforddwr mor ymroddedig fel ei fod yn gyrru wyth awr yno ac yn ôl i Milton Keynes am sesiwn tair awr:

“Mae pobl yn meddwl fy mod i’n wallgof! Ond yno rydyn ni’n gallu gweithio gyda hyfforddwyr sy’n gyfrifol am athletwyr o safon byd. Ac rydyn ni’n cael defnyddio trac tymblo graddfa lawn felly mae’n brofiad amhrisiadwy. O dreulio amser gyda nhw, rydw i wedi gwneud newidiadau yn y clwb yn barod, ac rydw i eisoes yn gweld gwelliannau yn y sgwad.”

Mae Jamie’n treulio bob nos bron yn y clwb. Ac yn sicr nid yw’n cael mwynhau aros yn ei wely ar fore Sadwrn gan ei fod yn gadael ei gartref yng Nghaerdydd am 7am i fynd i’r gampfa. Ar ben hyn i gyd, mae’n gweithio 40 awr yr wythnos yn y sector blynyddoedd cynnar.

Ond eto mae’n dal i geisio ehangu’r clwb ymhellach, gyda phenderfyniad diwyro i gynnig mwy o sesiynau i’r gymuned leol. Ar hyn o bryd mae’n mentora grŵp o ieuenctid yn eu harddegau sydd eisiau bod yn hyfforddwyr, i helpu i ymdopi â’r galw.

“Y prif reswm dros wneud hyn?,” dywedodd Jamie. “Yr effaith ar y plant. Mae’n rhaid i chi ddeall bod gan Ben-y-bont ar Ogwr ddiwylliant rygbi traddodiadol iawn. Mae gennym ni un bachgen 14 oed ac mae’n gymnast tymblo gwych ac yn chwaraewr rygbi anhygoel hefyd. Ar ôl ei gemau rygbi, mae’n ôl yn yr ystafell newid ac yn estyn am ei leotard o flaen gweddill y tîm. Mae bod yn gyfforddus gyda chi eich hun fel yna, yn yr oedran yma,  a chael eich parchu amdano – mae’n hyder anhygoel.

“Rydw i wir yn credu bod tymblo’n helpu’r plant yma i fod yn bobl ifanc cyflawn gyda llawer o hyder ac mae hynny’n ardderchog.”