DAN BIGGAR A PHEL-DROED CYMRU’N DISGLEIRIO YNG NGWOBRAU CHWARAEON CYMRU

Mae seren rygbi Cymru a’r Gweilch, Dan Biggar, wedi cael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015 yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru heno. Mae Biggar wedi disgleirio yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros Gymru ac wedi cael tymor gwych arall gyda’r Gweilch. Cafodd y wobr ei chyflwyno iddo gan Nigel Owens yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd heno (dydd Llun, 7 Rhagfyr).

Ac ar l blwyddyn anhygoel i bel-droed Cymru, cipiodd Tim Pel-droed Dynion Hyn Cymru â’r wobr am Dim y Flwyddyn ar sicrhau lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop UEFA yn Ffrainc yr haf nesaf, a hyfforddwr Cymru Chris Coleman, enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn.

Daeth Dan Biggar i’r brig yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC CymruGeraint Thomas ddaeth yn ail a Lee Selby yn drydydd.

Roedd Chwaraeon Cymru a BBC Cymru wedi dod at ei gilydd unwaith eto i gynnal digwyddiad dathlu chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad. Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd eraill eu gwobrwyo am lwyddo’n arbennig ym maes chwaraeon yng Nghymru hefyd:

Yr enillwyr oedd:

  • Tim y Flwyddyn Tim Pel-droed Dynion Hyn Cymru
  • Gwobr Cyflawniad Oes (Elite) Syr Gareth Edwards (Rygbi’r Undeb)
  • Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol) Dorothy Neyland (Gymnasteg, Abertawe)
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn Wendy Pressdee (Pel-rwyd, Abertawe)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Elan Mon Gilford (Aml-gamp, Ynys Mon)
  • Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn Lowri Haf Barker (Pel-rwyd, Sir y Fflint)
  • Chwaraewr Iau y Flwyddyn Carwyn James Matt Story (Tenis, Caerdydd)
  • Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James Hannah Brier (Athletau, Abertawe)
  • Hyfforddwr Pobl Anabl John Wilson (Bowls ar gyfer pobl sydd nam ar eu golwg, Abertawe)
  • Arwr Tawel Jane Roberts a Nerys Ellis (Clwb Nofio Llanrwst, Conwy)
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn Angeline Tshiyane (Aml-gamp, Casnewydd)

Cafodd y dyfarnwr Nigel Owens lwyddiant hefyd, gyda chydnabyddiaeth arbennig i ddathlu cael ei benodi’n ddyfarnwr ar gyfer rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Syr Gareth Edwards, un o arwyr Rygbi’r Undeb, enillodd wobr Cyflawniad Oes (Elite). Gellir dadlau mai ef yw’r chwaraewr rygbi undeb gorau erioed. Enillodd 53 cap dros Gymru ac enillodd 10 cap dros Lewod Prydain.

Un o hoelion wyth gymnasteg yn Abertawe, Dorothy Neyland, enillodd wobr Cyflawniad Oes (Cymunedol). Dechreuodd grwp gymnasteg bychan yn 1972 er mwyn i’w phlant allu cymryd rhan, a 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n glwb llwyddiannus lle mae cannoedd o bobl ifanc yn hyfforddi bob wythnos.

Wendy Pressdee, sy’n ymwneud ag ochr weinyddol pel-rwyd, enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn am waith sy’n cynnwys rhoi dros 30 awr i gynnal cynghreiriau yn Abertawe, ac Elan Mon Gilford o Ynys Mon enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn.

Hyfforddwr Clwb Pel-droed yr Wyddgrug, Lowri Haf Barker enillodd wobr Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn ar ymgymryd pan oedd yn 16 oed ar i hyfforddwr y clwb gael diagnosis o ganser.

Aeth gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Carwyn James i’r chwaraewr tennis addawol Matt Story o Gaerdydd a Hannah Brier o Abertawe enillodd wobr Chwaraewraig y Flwyddyn Carwyn James.

John Wilson, sydd wedi sefydlu clybiau newydd ar gyfer bowlwyr sydd nam ar eu golwg, enillodd wobr Hyfforddwr Pobl Anabl.

Mae’r ffermwyr, Jane Roberts a Nerys Ellis o Glwb Nofio Llanrwst yng Nghonwy wedi bod yn gwirfoddoli fel hyfforddwyr yn y clwb arm 30 o flynyddoedd ac maent wedi ennill gwobrArwr Tawel BBC Cymru Wales Get Inspired oherwydd hynny. Byddant yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar BBC One Wales, dydd Sul, 20 Rhagfyr.

Angeline Tshiyane, sydd wedi bod yn hyrwyddo chwaraeon yng nghymunedau du a lleiafrifoedd ethnig Casnewydd, enillodd wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister:

Mae hi wedi bod yn flwyddyn arall o lwyddiannau i’w dathlu ac mae Gwobrau Chwaraeon Cymru eto wedi ennyn yr ysbrydoliaeth ac aberthon bob dydd sy’n gwneud chwaraeon yng Nghymru mor afaelgar.

Mae chwaraeon llawr gwlad ac elite yn tynnu sylw at Gymru, gyda’n sir chwaraeon yn ei n rhoi ni ar fap y byd ac yn annog mwy o bobl nag erioed i gymryd rhan yn ein cymunedau.

Mae llwyddiannau chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth mae’r genedl yn ymfalchio ynddo. Mae’n bwysig i ni fanteisio i’r eithaf ar yr  ymdeimlad positif yma fel bod cenedlaethau o bobl yng Nghymru yn parhau i fwynhau’r un llwyddiant yn y dyfodol.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:

“Unwaith eto mae 2015 wedi bod yn flwyddyn eithriadol ym maes chwaraeon yng Nghymru , ac mae hi wir yn wefr i arddangos y talent a’r safon anferthol sydd ar draws chwaraeon Cymru. Mae’r rhain yn straeon dynol anghyffredin , nid yn unig ymhlith y dynion a merched sydd ymhlith y gorau yn y byd , ond hefyd ar draws y rhwydwaith o bobl ysbrydoledig sy’n gwneud i chwaraeon ddigwydd – o weinyddwyr a swyddogion i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr . Mae hon yn noson i ddweud diolch ac i’w dathlu nhw bob un.”

 

Bydd y seremoni i’w gweld yn llawn ar wasanaeth Botwm Coch y BBC am 4.30pm a 11.20pm ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr. Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio BBC iPlayer am 30 diwrnod.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://walessportawards.co.uk/?lang=cy

dan

UN O HOELION WYTH BYD GYMNASTEG ABERTAWE, DOROTHY NEYLAND, YN CIPIO GWOBR CYFLAWNIAD OES CYMUNEDOL

DOTWedi mwy na 40 mlynedd yn darparu cyfleoedd gymnasteg i bobl ifanc yn Abertawe, mae Dorothy Neyland MBE wedi cael ei hanrhydeddu gyda gwobr cyflawniad oes cymunedol yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru heno (nos Lun, Rhagfyr 7).

Ar ôl gweld buddugoliaethau Olympaidd Olga Korbut yn 1972, roedd plant Dorothy Neyland eisiau dechrau cymryd rhan mewn gymnasteg. Felly sefydlodd Dorothy grŵp ar ôl ysgol bychan o’r enw Clwb Gymnasteg Tre-gŵyr. Gwnaeth hyn ochr yn ochr â gofalu am ei chwech o blant a rhedeg grŵp chwarae o’i chartref.

Ychydig a wyddai hi bryd hynny y byddai ei gwasanaethau i gymnasteg ac i gymuned Abertawe mor fawr fel y byddai’n derbyn MBE a diploma gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol.

Mae’r clwb – West Street Gymnastics erbyn hyn – yn dal i ffynnu ac ar fin dathlu ei ben blwydd yn 40 oed ym mis Ionawr. Daeth yn rhy fawr i Ysgol Tre-gŵyr yn fuan iawn yng nghanol y 1980au ac felly symudwyd i hen garej bysus. Mae ganddo ddalgylch eang ac mae ei aelodau’n cystadlu ar lefel ryngwladol.

Does gen i ddim cefndir gymnasteg,” esbonia Dorothy, sy’n byw yn Nhre-gŵyr. “Ond rydw i wastad wedi bod yn hoff iawn o chwaraeon. Doedd gen i ddim diddordeb mewn hyfforddi na beirniadu ond rydw i bob amser wedi mwynhau gweinyddu a rhedeg y clwb. Rydw i’n gwneud ychydig o sgorio hefyd – ond roedd yn wahanol bryd hynny cofiwch. Pensel a phapur bob amser, ond y cyfrifiaduron sydd wrthi nawr.”

Yn 81 oed, mae ymrwymiad Dorothy i’r clwb mor ddiwyro ag erioed ac mae’n rhoi 10 i 12 awr yr wythnos o’i hamser i drefnu dosbarthiadau a chystadlaethau. Mae hi hefyd yn Ysgrifennydd ardal y Gorllewin ac yn trefnu cystadlaethau cenedlaethol a rhanbarthol. Dim ond yn ddiweddar iawn mae wedi rhoi’r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Aelodaeth Gymnasteg Cymru.

“Rydw i wedi ymddeol ond mae gwirfoddoli’n fy helpu i i ddal ati. Mae’n cadw fy meddwl i’n effro ac rydw i wrth fy modd gyda’r hwyl yng nghwmni eraill. Rydw i wedi bod yn America gydag Academi Gorllewin Cymru hyd yn oed. Rydw i’n hoffi popeth am hyn. Pe bai gymnasteg yn diflannu o fy mywyd i, byddai’n gadael bwlch enfawr.

“Mae’n rhoi cymaint o foddhad gweld y plant yn rhedeg i mewn ac yn mwynhau’r gamp. Fyddan nhw i gyd ddim yn gymnastwyr ar lefel uchel – ac rydyn ni wedi cael cryn dipyn o’r rheiny – ond yr hyn sy’n bwysig yw eu bod nhw’n dod i mewn yma’n hapus ac yn mynd adref yn hapus.”

Mae oriau dirifedi Dorothy o wirfoddoli, a’i hymrwymiad a’i hangerdd, wedi rhoi cyfle i gannoedd o blant ledled Cymru gymryd rhan mewn gymnasteg.

Mae’n diolch am gefnogaeth ei gŵr rhagorol, Terry, a fu farw saith mlynedd yn ôl:

“Roeddwn i’n cael gwneud fel y mynnwn i ganddo fe. A dydw i ddim yn gallu dioddef gwaith tŷ! Roedd hynny’n rheswm mawr! Fe benderfynais i’n sydyn iawn, pe bawn i’n cael rhywun i mewn i lanhau, y byddwn i’n gallu rhedeg y grŵp chwarae a’r clwb gymnasteg, ac felly roeddwn i’n hapus iawn!”